28.2.13

Diwrnod #beiblibawb


 
Mae Dydd Gwener, Mawrth 1af yn ddiwrnod i ddathlu’r Beibl yn Gymraeg!
 
Ymunwch gyda ni!

Mae’n 25 mlynedd union ers cyhoeddi’r Beibl Cymraeg Newydd, ac mae’r Beibl cyfan yn cael ei lansio ar Wefan www.beibl.net am y tro cyntaf.

... Dathlwch! Rhannwch adnod neu wirionedd o’r Beibl sy’n bwysig i chi gyda’ch ffrindiau – defnyddiwch unrhyw gyfrwng:
  • Gweplyfr (Facebook)
  • Trydar (Twitter)/Skype
  • tecstio
  • e-bost
  • blog
  • YouTube
  • neu unrhyw ddull arall...a cofiwch gynnwys yr hashnod (hashtag) #beiblibawb

    Dwedwch wrth bobl am gariad rhyfeddol Duw.
    Fel mae Salm 78 yn ein hannog:

“Dweud fod yr ARGLWYDD yn haeddu ei foli!
Son am ei nerth a'r pethau rhyfeddol a wnaeth.”


ANFONWCH Y NEGES YMA YMLAEN I'CH FFRINDIAU!
 

3.4.12

Emynau - Ysgol Undydd 2012

Ysgol Undydd 2012

CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU

 
 Dr Eryn M. White : Llangeitho, Pantycelyn a'r emyn - Methodistiaid a chanu mawl yn y ddeunawfed ganrif 

Dr Brynley F. Roberts
 : Garfield H. Hughes, hanesydd emynyddiaeth

Dydd Sadwrn 
5 Mai 2012
10.30 - 4.00

Festri Bethel (Bedyddwyr)
Stryd y Popty, Aberystwyth

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Delyth G. Morgans
ymholiadau@emynau.org

10.3.11

Emynau - Ysgol Undydd

Ysgol Undydd 2011
CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU
 
 Yr Athro Len Jones : Lyra Germanica - yr emyn Almaeneg yn ei wisg Gymraeg 
Yr Athro D. Densil Morgan : Awen Lewis Edwards, Y Bala
 Lansio 'Cân y Ffydd' : detholiad o ysgrifau Dr Kathryn Jenkins ar emynyddiaeth

Dydd Sadwrn 
30 Ebrill 2011 
11.00 - 4.00

Ysgol Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Islamaidd 
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Delyth Morgans
ymholiadau@emynau.org



20.1.11

Gweithdy Caneuon Cymraeg (2 Ebrill 2011)


Cliciwch ar y poster weld fersiwn mwy...

Mae cynnyrch y gweithdai blaenorol ar gael i'w lawrlwythno yma.

9.9.10

Gweithdy Caneuon Cymraeg


Cliciwch ar y poster weld fersiwn mwy...

8.8.10

13 - 20 Awst 2010 | Haf 10 | Souled Out Cymru

Llai nag wythnos i fynd..!

Archebwch eich lle heddiw!
Ffoniwch 01678 520565

Cwrs i ieuenctid, myfyrwyr ac oedolion ifanc

27.7.10

Gwyn a Gwridog


Darlith Flynyddol
CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU


“Gwyn a Gwridog”
Caniad Solomon yn emynau Williams Pantycelyn
 
Robert Rhys

Pabell y Cymdeithasau 1
Maes Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent

Mercher, 4 Awst 2010
10 o'r gloch

Cadeirydd: Dr Rhidian Griffiths

 Croeso cynnes i bawb