Dyma un o fy hoff emynau cyfoes ar hyn o bryd Ysblander Frenin Nef (The Splendor of the King) gan Chris Tomlin. Recordiad o fand addoli Llanw ydyw - nid yw safon y sain yn y fideo yn dda o bell ffordd ond gobeithio y bydd yn rhoi rhyw syniad i chi o'r emyn.
I Chwarae: CAPO ar y bedwaredd ffret yna'r patrwm cordiau G yn disgyn i Em, C, D ac yna dychwelyd i G - HAWDD!
YSBLANDER BRENIN NEF, Mawredd sy’n Ei wedd, Gadewch in lawenhau, dewch i lawenhau, Mae’n gwisgo golau pur Mae’n treiddio’r tywyll-dir Sy’n crynu’n sŵn Ei lais, yn crynu’n sŵn Ei lais.
Mor fawr yw ein Duw, cenwch fry Mor fawr yw ein Duw, fe welwn ni Mor fawr, mor fawr yw ein Duw.
Fe saif o oes i oes; Mewn grym teyrnasa’n ddoeth O’r dechrau a hyd byth, dechrau a hyd byth Yn Drindod, Ef yw’r Tad, Y mab a’r Ysbryd Glân Y llew a’r oen yn un, y llew a’r oen yn un.
Enw’r uchaf Un, Haedda’n mawl i gyd Fe ganwn ni Mor fawr yw ein Duw
Chris Tomlin, Jesse Reeves & Ed Cash cyf. Martyn Geraint ac Arfon Jones