Showing posts with label Coleg y Bala. Show all posts
Showing posts with label Coleg y Bala. Show all posts

20.1.11

Gweithdy Caneuon Cymraeg (2 Ebrill 2011)


Cliciwch ar y poster weld fersiwn mwy...

Mae cynnyrch y gweithdai blaenorol ar gael i'w lawrlwythno yma.

9.9.10

Gweithdy Caneuon Cymraeg


Cliciwch ar y poster weld fersiwn mwy...

8.8.10

13 - 20 Awst 2010 | Haf 10 | Souled Out Cymru

Llai nag wythnos i fynd..!

Archebwch eich lle heddiw!
Ffoniwch 01678 520565

Cwrs i ieuenctid, myfyrwyr ac oedolion ifanc

13.8.09

Haf 09 | Souled Out Cymru - Lawrlwythwch y rhaglen!


14 - 21 Awst 2009 | Coleg y Bala

Mae rhaglen lawn ar gael bellach
i'w lawrlwytho o'r wefan
yma.


27.7.09

14 - 21 Awst 2009 | Haf 09 | Souled Out Cymru

Archebwch eich lle heddiw!

14 - 21 Awst 2009 | Coleg y Bala

Ewch i www.souledoutcymru.net am fwy o fanylion
ac i lawrlwytho ffurflen gofrestru!

15.6.09

5 Medi 2009 | Rhwydwaith 09 | Souled Out Cymru

DYDDIAD I'R DYDDIADURON > Dydd Sadwrn, 5 Medi 2009

Y cyntaf o ddigwyddiadau undydd
Sadwrn | Souled Out Cymru

Cwrs Rhwydwaith
gyda
Andy Herrick, Aberystwyth

Cyfle i ddarganfod dy ddoniau ysbrydol, dy arddull bersonol,
a'r tân a roddwyd i ti gan Dduw i wasanaethu yng nghorff Crist.


Mwy o fanylion ar y wefan >> www.souledoutcymru.net


20.12.08

Fideo o Dewi Hughes yn trafod 'Power and Poverty'

Ches i'r fraint o fod yn lansiad Cymru o gyfrol ddiweddaraf Dewi Arwel Hughes ddechrau'r mis. Roedd y Camera fideo gyda mi felly fe wnes i recordio'r sgwrs gyda Dewi; dyma hi i chi, mwynhewch...

10.12.08

Souled Out Cymru | Aduniad 09



Archebwch eich lle | Ffurflen Archebu >>

Llawrlwythwch y rhaglen |
Rhaglen >>

Ymunwch | Grwp Facebook Souled Out >>

Am fwy o wybodaeth | gwybodaeth@souledoutcymru.net
neu cysylltwch â Meryl Walters ar 01678 520565
Aduniad 09 | souledoutcymru.net

29.8.08

Souled Out Cymru | Adroddiad Haf 08


Cwestiwn: Beth mae bod yn Gristion yn ein cartrefi, ysgolion, prifysgolion a’n gweithleodd yn ei olygu heddiw?

Am wythnos ym mis Awst bob blwyddyn mae criw o ieuenctid, myfyrwyr ac oedolion ifanc yn dod i Goleg y Bala er mwyn darganfod mwy am hyn a chael mwy na ‘chydig o hwyl yn y broses! Eleni daeth dros 70 o bobl (y nifer mwyaf erioed) yn wynebau hen a newydd i gwrs Haf 08.

Y thema oedd ‘Crist yw Byw’ allan o bennod 2 llythyr Paul at y Philipiaid. Cawsom ein herio a’n hannog i feddwl am ein hymateb i’r ffaith ein bod ni’n gallu derbyn cyfoeth Duw AM DDIM oherwydd beth wnaeth Iesu Grist ar y groes. Yn dilyn y cyfarfodd roedd cylfe i drafod a holi cwestiynau mewn grwpiau ynglŷn â cynnwys sgyrsiau’r siaradwyr.

Roedd gweithgareddau eraill yn cynnwys chwarae pel-droed, rownderi, hoci, yfed te, gwylio ffilmiau, mynd am drip i’r traeth, bwyta kebabs, siopa yng Nghaer, disgo 80au gwyllt a siarad tan oriau man y bore! Ym mhopeth roedd presenoldeb Duw i’w deimlo ac roeddem yn gadael wedi ein herio a’n calonogi i fyw bywydau sy’n llawn pwrpas er mwyn Iesu Grist.


GRWPIAU RHANBARTHOL > Bydd grwpiau Souled Out Cymru yn cyfarfod yn ystod y flwyddyn ledled Cymru i roi cyfle i ni ddysgu, cefnogi ac annog ei gilydd. Ewch i’r wefan www.souledoutcymru.net i ddarganfod mwy am sut y gallwch chi ymuno!

ADUNIAD 09 > Bydd digwyddiad cyntaf 2009 Aduniad 09 yn cael ei gynnal 2 - 4 Ionawr 2009 yng Ngholeg y Bala. Mae croeso i bawb wynebau hen a newydd.

HAF 09 > Bydd cwrs Haf 09 yn cael ei gynnal 14 – 21 Awst 2009 yng Ngholeg y Bala.

GWNEWCH YN SIWR FOD Y DYDDIADAU YN EICH DYDDIADURON!
Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o’r gweithgareddau uchod gallwch:

1) Fynd i’r wefan http://www.souledoutcymru.net/
2) E-bostio gwybodaeth@souledoutcymru.net
3) Ymuno â grwp Souled Out ar Wyneblyfr (Facebook)

21.7.08

Garin Jenkins yn y Bala mis Awst!

Nos Sul, 17 Awst 2008 bydd Garin Jenkins yng Nghanolfan Hamdden Y Bala. Bydd yn siarad am ei fywyd a'i ffydd ar, ac oddi ar y cae rygbi. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.


20.3.08

Lansio Gwefan Souled Out Cymru


Mae gwefan newydd wedi ymddangos ar y sin! Gwefan Souled Out Cymru. Rhwydwaith o Gristnogion ifanc (15 – 30 oed) ydi Souled Out Cymru sy’n cyfarfod mewn grwpiau ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn gyda’r pwrpas o annog a chefnogi ei gilydd yn eu bywydau Cristnogol. Bydd criw yn dod at ei gilydd gyfer wythnos (15 – 22 Awst 2008) yng Ngholeg y Bala yn ystod yr haf. Os oes gennych chi ddiddordeb ac am wybod mwy ewch am dro i souledoutcymru.net!

14.2.08

Cofio Sion


Bu i ni ddeffro fore Sadwrn diwethaf (9fed Chwefror) i glywed y newyddion brawychus fod Sion Ifan Evans wedi marw yn 27 oed yn dilyn damwain yng Ngholeg y Bala yn oriau man y bore. Roedd Sion yn enedigol o Lwyndafydd, Ceredigion ac yn 2004 yn dilyn cyfnod yn y Brifysgol ym Mangor, fe’i hapwyntiwyd yn Weithiwr Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac yn Is-warden Coleg y Bala. Doedd Sion ddim yn un i fod yn segur ac fe fu iddo fyw bywyd llawn a gyffyrddodd fywydau lawer iawn o bobl.

Un o’r pethau cyntaf a sylwai pobl arno oedd ei addfwynder a oedd yn ei wneud yn berson agos-atoch dros ben. Roedd yn berson cydwybodol a dibynadwy a deuai â brwdfrydedd a phroffesiynoldeb i bopeth a wnai. Roedd yn ffrind da ac yn un y gallech ymddiried ynddo bob amser. Roedd llawer iawn o hwyl i’w gael gydag o hefyd (gallai fod yn ddireidus iawn ar brydiau!) ac mae gan lawer ohonom ni atgofion ohono sy’n dal i beri ni chwerthin! Yn sylfaen i hyn i gyd a’r ffordd y bu iddo fyw ei fywyd oedd ei ffydd gadarn yn Iesu Grist. Ffydd a dreiddiai i bob rhan o’i fywyd ac a oedd i’w weld yn eglur ym mhopeth a wnai. Rydym ni’n cofio’n arbennig am ei rieni, ei chwaer a’r teulu i gyd.

Bydd angladd Sion yn cael ei gynnal bnawn Sadwrn nesaf, Chwefror 16eg am 1:00 o’r gloch yng
Nghapel yr Annibynwyr, Nanternis, ger Llwyndafydd, Ceredigion.

Bydd Oedfa Goffa i ddiolch am fywyd Siôn yng
Nghapel Tegid, Y Bala, dydd Sadwrn, Mawrth 8fed am 2:00 o’r gloch.

2.1.08

Aduniad Souled Out Penwythnos nesa'!




Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd! Bydd penwythnos Souled Out yn cael ei gynnal penwythnos nesaf (4-6 Ionawr 2008) yng Ngholeg y Bala. Byddwn ni'n cael cyfle i ddysgu a chyd-addoli mewn awyrgylch gartrefol ac anffurfiol. Y thema fydd 'Pethau Cyntaf Gyntaf'. Cyfle i gael golwg ddyfnach ar sut i fyw gyda'r blaenoriaethau cywir. Jyst y peth ar ddechrau blwyddyn newydd! Bydd digon o amser hefyd i gymdeithasu, i weddio, yn ogystal â phêl-droed, paneidiau te a sgwrsio tan oriau mân y bore! Bydd y penwythnos yn dechrau nos Wener ac yn gorffen amser cinio dydd Sul. Mae'n agored i ieuenctid 15+ ac oedolion ifanc. Does dim rhaid i chi fod wedi bod o'r blaen! Am fwy o fanylion cysylltwch â Meryl Walters ar 01678 520565 neu trwy e-bostio meryl_walters@yahoo.co.uk.

17.7.07

Be ar y ddaear ydi Souled Out?




Gan fod y cwestiwn yma wedi codi mwy nag unwaith mewn sgyrsiau dwi di eu cael yn ddiweddar, roeddwn i’n meddwl y byddai rhyw gyflwyniad bach cryno ar Cristnogblog yn syniad da!

Cynhaliwyd y ‘Souled Out’ cyntaf yng Ngholeg y Bala ym mis Awst 2000. Cwrs haf (pythefnos o hyd!) a oedd a’r enw Cymraeg (Cwrs Hyfforddi Ieuenctid neu CHI - allwch chi ddeall rŵan pan na fu i’r enw Cymraeg gael defnydd eang! Allwch chi ddychmygu gofyn i rywun “Wyt ti’n dod i CHI leni?!” Da ni’n dal i dderbyn cynigion am enw Cymraeg teilwng i ‘Souled Out’ - teipiwch eich cynigion yn y blwch sylwadau isod!!)

Beth bynnag yn ôl at y stori. Gweledigaeth staff y Coleg oedd cynnal cwrs a fyddai’n anelu i hyfforddi cenhedlaeth newydd o arweinwyr. Cafwyd cefnogaeth ariannol gan yr Eglwys Bresbyteraidd i dalu i ieuenctid fynychu’r cwrs. Bu i Dduw fendithio cyrsiau yma a daeth nifer i ffydd o ganlyniad.

Yn dilyn cwrs 2004 roedd y teimlad ein bod am i Souled Out fod yn fwy na dim ond cwrs yn yr haf ac Aduniad ym mis Ionawr. Penderfynwyd y bydden ni’n sefydlu grwpiau rhanbarthol a fyddai’n cyfarfod yn rheolaidd gyda’r bwriad o gefnogi’n gilydd fel rhwydwaith o Gristnogion sydd wedi ein gwasgaru ar draws Cymru. Aethpwyd ati i wneud hyn trwy fwyta take aways, addoli, dysgu a gweddïo gyda’n gilydd. Yn bersonol, dwi wedi cael bendith fawr o fod yn rhan ohono ac mae hi wedi bod yn gyffrous bod yn rhan o’r gymdeithas a gweld unigolion yn dod i gredu a thyfu yn y ffydd.

Bydd Souled Out yn rhedeg eto eleni yng Ngholeg y Bala rhwng yr 17-24 Awst 2007. Mae manylion cysylltu’r Coleg ar y wefan - http://www.colegybala.org/. Cofiwch hefyd am grwp 'Souled Out' ar Facebook!