21.10.08

Dewch i Dorri Syched

Nos Sul diwethaf cynhaliwyd Torri Syched cyntaf yr Hydref yn nhafarn y Cwps, Aberystwyth am 8.30yh.

Grwp o bobl ifanc yw Torri Syched, a'r bwriad yw dod at ein gilydd i gyd addoli a chyd weddio.

Cynhaliwyd y sesiwn nos Sul diwethaf gan Arawn Glyn a ddarllenodd amrywiaeth o ddarnau o'r Beibl gan geisio ateb rhai o'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn yn aml am Gristnogaeth heddiw. Arweiniwyd yr addoli gan Bethan Thomas.

Mae croeso i bawb i ymuno gyda ni. Rydym hefyd yn bwriadu cynnal sesiwn o Torri Syched gyda chriw o Landysul ar 16 Tachwedd. Cysylltwch a ni os hoffech fwy o wybodaeth!

10.10.08

Cymry'n ymweld ag Eglwysi Kyiv [Rhan 1]

Fore Sul diwetha ces i'r fraint o fod yn rhan o ddirprwaeth o Gymru wnaeth ymweld a Kyiv, fe aethom ni i wasanaeth am 11yb yn Eglwys New Life, eglwys sy'n addoli yn Iwcraniain er yr enw Saesneg. Roedd rhyw 600 yn y gwasanaeth ac roedd 600 arall yn y gwasanaeth cyntaf am 9yb – eglwys weddol gymedrol ei faint i Kyiv felly! Mae'r Eglwys yn cael ei arwain gan Pastor Anatoliy Kalujniy, un a fagwyd yn y traddodiad Bedyddiedig oedd yn danddaearol i bob pwrpas dan y Sofietiaid. Maen parhau i fod yn Fedyddiwr ond mae'n arwain eglwys fwy Garismataidd na'r hyn y mae'r term “Bedyddwyr” yn golygu i ni yng Nghymru heddiw. “Baptist call me Charismatic and Charismatics call me Baptists” meddai wrth chwerthin. Roedd Jim wedi cyfarfod ac Anatoliy o'r blaen a hynny mewn cynhadledd i arweinwyr Eglwysig Efengylaidd yng Ngroeg y llynedd – mae Anatoliy yn ceisio ffurfio rhyw fath o fudiad eang tebyg i'r Gynghrair Efengylaidd all fod yn lais unedig yr Eglwysi Protestannaidd yn y wlad ar faterion gwleidyddol a chymdeithasol gerbron y llywodraeth.


Watch Pastor Anatoily a'r Chwyldro Oren in Faith Videos | View More Free Videos Online at Veoh.com

Wrth dreulio amser gyda Anatoily daeth hi i'r amlwg ei fod yn arweinydd o sylwedd. Oedd mi roedd yn arweinydd Eglwysig pwysig a llwyddiannus yn Kyiv ond daeth i'r amlwg y bod e yn un o arweinwyr pwysig y Chwyldro Oren nol yn 2004. Mae hyn wrth gwrs yn arwyddocaol i mi oherwydd, ar y cyfan, mae pobl o berswâd efengylaidd yng Nghymru a Lloegr yn cadw draw o wleidyddiaeth ac yn sicr yn cadw draw o wleidyddiaeth radical heb sôn am fod yn rhan o arwain chwyldro! Esboniodd Anatoily ei fod yn ymwneud o gwleidyddiaeth ac yn benodol y chwyldro nol yn 2004 oherwydd fod y cyfan yn fwy na gwleidyddiaeth ac mae gwneud safiad moesegol ac nid gwleidyddol oedd ef a'r Eglwysi yn gwneud wrth yrru'r chwyldro yn ei flaen. Roedd hyn yn ddifyr oherwydd dyna oedd cyfiawnhad R. Tudur Jones pan fyddai pobl yn amau priodoldeb ei rôl ef fel arweinydd Cristnogol ar un llaw ac arweinydd ym Mhlaid Cymru ar y naill. I Dr. Tudur cwestiwn moesegol oedd parhad a thegwch i Gymru yn yr un ffordd a mae cwestiwn moesegol oedd hi i Anatoily wneud yr hyd a medrai i gefnogi ac arwain yn chwyldro yn 2004.

Maen ddifyr ein bod ni yn y Gorllewin heb ddeall y rôl allweddol yr oedd yr Eglwysi yn chwarae yn y chwyldro. Roedd cyfarfod gweddi ar y sgwâr rhwng 9 a 10 bob bore gyda degau o filoedd yn cymryd rhan ac wedi hynny mi fyddai arweinwyr yr Eglwysi gan gynnwys Anatoily yn rhannu'r newyddion da am Iesu cyn agor y llwyfan yn hwyrach yn y dydd i'r areithiau gwleidyddol. Nid oedd y wedd yma o'r chwyldro yn cael ei bortreadu gan gyfryngau'r gorllewin o gwbl ac roedd Anatoily o'r farn mae penderfyniad golygyddol o ran CNN a'r BBC oedd peidio dangos blas grefyddol y chwyldro oherwydd cyswllt negyddol crefydd a gwleidyddiaeth yn y gorllewin (Jihad etc..). Edrychwch ar y fideo i glywed Anatoily yn adrodd yr hanes. Roedd yn fraint cyfarfod y gŵr hwn.

Oddi ar: Blog Rhys Llwyd

9.10.08

Ethol Esgob newydd ym Mangor

Roeddw ni'n teimlo'n reit ddigalon bore ma ar ôl dychwelyd o Kyiv. Roedd bod yng nghanol bwrlwm y diwygiad yna wedi gwneud i mi sylwi o'r newydd beth oedd dyfnder yr argyfwng a'r tywyllwch ysbrydol a moesol yma yng Nghymru. Fe wnai bostio am Kyiv mewn manylder eto ond yn fras mae Kyiv yn le cyfoethog iawn yn y pethau sy'n cyfri ac mae Cymru'n boenus o dlawd yn y pethau sy'n cyfri. Fodd bynnag, erbyn amser cinio ches i fy nghalanogi rywfaint ar ôl clywed fod Esgobaeth Bangor wedi penderfynnu appwyntio Andy John fel Esgob newydd ac mi fydd hyn, gobeithio, yn agor y ffordd i Andy John olynu Barry Morgan fel Archesgob Cymru. Ar y cyfan mae angen i'r Anglicaniaid wneud mwy nag apwyntio'r bobl cywir i fod yn arf cenhadol blaenllaw yng Nghymru heddiw ond maen gam i'r cyfeiriad cywir gweld Esgob sy'n dilyn efengyl Duw ac nid tueddiadau'r oes yn cael ei apwyntio; chwa o awyr iach.

Mae hwn yn benodiad arwyddocaol iawn ac fe allai olygu gweld shift pwysig ac arwyddocaol o fewn yr Eglwys yng Nghymru; rhyw fath o re-refomation. Yr hyn sy'n 'bombshell' i'r sefydliad Anglicanaidd yw fod Andy John yn drwydal uniongred (neu efengylaidd os liciwch chi). Mae wedi dysgu Cymraeg yn rhugl ac dim ond pedwar a deugain oed yw e. Dydw i ddim yn adnabod Andy, fodd bynnag rwyf yn gyfarwydd ag ef a'i weinidogaeth oherwydd yn y 90au ef oedd Ficer Aberystwyth yn gweithio fel rhan o dîm Stuart Bell - mewn gair, fe fwriodd Andy John ei brentisiaeth mewn Plwyf efengylaidd-garesmataidd oedd yn gweld bendith, mae Andy felly yn gwybod be 'di be.

Mae llaw Duw yn amlwg iawn yn yr apwyntiad yma oherwydd ddechrau'r wythnos roedd y dewis o ffefrynnau yn edrych yn llwm iawn a ddim yn dangos unrhyw obaith o gwbl o weld yr Eglwys yng Nghymru yn apwyntio arweinydd newydd fyddai'n ei harwain at hen lwybr y Groes mewn ysbryd newydd. Dwi ddim yn rhy wybodus am ddaliadau a chredodau Anglicaniaid unigol ond dwi'n meddwl mod i'n gywir i ddweud fod Andy John wedi bod yn ddewis tra gwahanol i'r tri arall oedd yn cael eu hystyried fel ffefrynnau ddechrau'r wythnos - Meurig Llwyd, John Holdsworth a'r an-enwog Jeffrey John.

Mae penodiad Andy yn "devine intervention" yn wir.

5.10.08

Gwenno Teifi yn Amsterdam


Bellach mae Gwenno Teifi o Lanfihangel ar Arth yn Amsterdam yn gwirfoddoli yn y Tŷ Cenhadol yno. Yn handi iawn i'r rhai sydd am wybod beth fydd Gwenno yn ei wneud, mae ganddi flog yn sôn am ei hynt a'i helynt, gan gynnwys y prosiectau gwahanol y mae hi'n ymwneud â hwy!


Am fwy o wybodaeth ewch i: http://gwennoynamsterdam.blogspot.com/

2.10.08

Estyn llaw drwy redeg hanner marathon: Cefnogi Apel Kundru

Ar 19 Hydref bydd Dafydd Tudur yn rhedeg hanner marathon Caerdydd er mwyn codi arian i gymuned dlawd yn Kundru, sydd wedi ei leoli ger Ranchi, Gogledd Ddwyrain India. Gwnaed cysylltiad gyda'r ardal hon pan fynychais i weithdy datblygu cymunedol yn Botswana gyda CWM y llynedd. Yno cyfarfum a James Panavila. Mae James yn weinidog gydag Eglwys Gogledd India ym mhlwyf Hazaribag (rhan o esgobaeth Chotanagpur).

Lleolir Kundru tua 40km o Hazaribag yng nghanol coedwig. Oherwydd hyn maent yn cael trafferth mawr cyrraedd Hazaribag i gyfarfod ac addoli. Nid oes gan y rhan fwyaf o’r eglwysi adeilad i gyfarfod ynddo ac maent yn addoli ar y Sul o dan goed, sydd yn anodd mewn cyfnodau o monswn. Cânt eu gorfodi i gyfarfod mewn tai, sydd fel arfer yn dai un ystafell lle maent yn cysgu, yn bwyta ac yn byw.

Mae James wedi gofyn yn garedig i ni am gymorth i sefydlu adeilad yn y pentref hwn a fydd yn eglwys i addoli ynddi, yn ganolfan i bobl gyfarfod, ac yn lloches mewn cyfnodau o law trwm.

Rydym yn gofyn am eich cefnogaeth chi i adeiladu’r eglwys ac i estyn llaw at bobl Kundru. Os hoffech noddi Dafydd Tudur i redeg yr hanner marathon cysylltwch gyda Dafydd neu gyda mi. Diolch yn fawr iawn am eich cefongaeth.

1.10.08

Diwrnod i'r Brenin 2008


Ddydd Sadwrn, Hydref 4ydd bydd Diwrnod i'r Brenin yn cael ei gynnal rhwng 10.30 a 4.30 ar Faes y Sioe yn Llanelwedd. Gŵyl i'r teulu gyfan i ddathlu'n ffydd fel Cristnogion ydi hi. Alun Tudur fydd yn arwain yr oedfaon a bydd amrywiaeth o weithgraeddau i bawb o bob oed ar gael. Er mai Undeb yr Annibynwyr sy'n ei threfnu, mae croeso i bawb o bob enwad! Dewch yn llu!