Mae hwn yn benodiad arwyddocaol iawn ac fe allai olygu gweld shift pwysig ac arwyddocaol o fewn yr Eglwys yng Nghymru; rhyw fath o re-refomation. Yr hyn sy'n 'bombshell' i'r sefydliad Anglicanaidd yw fod Andy John yn drwydal uniongred (neu efengylaidd os liciwch chi). Mae wedi dysgu Cymraeg yn rhugl ac dim ond pedwar a deugain oed yw e. Dydw i ddim yn adnabod Andy, fodd bynnag rwyf yn gyfarwydd ag ef a'i weinidogaeth oherwydd yn y 90au ef oedd Ficer Aberystwyth yn gweithio fel rhan o dîm Stuart Bell - mewn gair, fe fwriodd Andy John ei brentisiaeth mewn Plwyf efengylaidd-garesmataidd oedd yn gweld bendith, mae Andy felly yn gwybod be 'di be.Mae llaw Duw yn amlwg iawn yn yr apwyntiad yma oherwydd ddechrau'r wythnos roedd y dewis o ffefrynnau yn edrych yn llwm iawn a ddim yn dangos unrhyw obaith o gwbl o weld yr Eglwys yng Nghymru yn apwyntio arweinydd newydd fyddai'n ei harwain at hen lwybr y Groes mewn ysbryd newydd. Dwi ddim yn rhy wybodus am ddaliadau a chredodau Anglicaniaid unigol ond dwi'n meddwl mod i'n gywir i ddweud fod Andy John wedi bod yn ddewis tra gwahanol i'r tri arall oedd yn cael eu hystyried fel ffefrynnau ddechrau'r wythnos - Meurig Llwyd, John Holdsworth a'r an-enwog Jeffrey John.
Mae penodiad Andy yn "devine intervention" yn wir.