Ar 19 Hydref bydd Dafydd Tudur yn rhedeg hanner marathon Caerdydd er mwyn codi arian i gymuned dlawd yn Kundru, sydd wedi ei leoli ger Ranchi, Gogledd Ddwyrain India. Gwnaed cysylltiad gyda'r ardal hon pan fynychais i weithdy datblygu cymunedol yn Botswana gyda CWM y llynedd. Yno cyfarfum a James Panavila. Mae James yn weinidog gydag Eglwys Gogledd India ym mhlwyf Hazaribag (rhan o esgobaeth Chotanagpur).
Lleolir Kundru tua 40km o Hazaribag yng nghanol coedwig. Oherwydd hyn maent yn cael trafferth mawr cyrraedd Hazaribag i gyfarfod ac addoli. Nid oes gan y rhan fwyaf o’r eglwysi adeilad i gyfarfod ynddo ac maent yn addoli ar y Sul o dan goed, sydd yn anodd mewn cyfnodau o monswn. Cânt eu gorfodi i gyfarfod mewn tai, sydd fel arfer yn dai un ystafell lle maent yn cysgu, yn bwyta ac yn byw.
Mae James wedi gofyn yn garedig i ni am gymorth i sefydlu adeilad yn y pentref hwn a fydd yn eglwys i addoli ynddi, yn ganolfan i bobl gyfarfod, ac yn lloches mewn cyfnodau o law trwm.
Rydym yn gofyn am eich cefnogaeth chi i adeiladu’r eglwys ac i estyn llaw at bobl Kundru. Os hoffech noddi Dafydd Tudur i redeg yr hanner marathon cysylltwch gyda Dafydd neu gyda mi. Diolch yn fawr iawn am eich cefongaeth.