10.10.08

Cymry'n ymweld ag Eglwysi Kyiv [Rhan 1]

Fore Sul diwetha ces i'r fraint o fod yn rhan o ddirprwaeth o Gymru wnaeth ymweld a Kyiv, fe aethom ni i wasanaeth am 11yb yn Eglwys New Life, eglwys sy'n addoli yn Iwcraniain er yr enw Saesneg. Roedd rhyw 600 yn y gwasanaeth ac roedd 600 arall yn y gwasanaeth cyntaf am 9yb – eglwys weddol gymedrol ei faint i Kyiv felly! Mae'r Eglwys yn cael ei arwain gan Pastor Anatoliy Kalujniy, un a fagwyd yn y traddodiad Bedyddiedig oedd yn danddaearol i bob pwrpas dan y Sofietiaid. Maen parhau i fod yn Fedyddiwr ond mae'n arwain eglwys fwy Garismataidd na'r hyn y mae'r term “Bedyddwyr” yn golygu i ni yng Nghymru heddiw. “Baptist call me Charismatic and Charismatics call me Baptists” meddai wrth chwerthin. Roedd Jim wedi cyfarfod ac Anatoliy o'r blaen a hynny mewn cynhadledd i arweinwyr Eglwysig Efengylaidd yng Ngroeg y llynedd – mae Anatoliy yn ceisio ffurfio rhyw fath o fudiad eang tebyg i'r Gynghrair Efengylaidd all fod yn lais unedig yr Eglwysi Protestannaidd yn y wlad ar faterion gwleidyddol a chymdeithasol gerbron y llywodraeth.


Watch Pastor Anatoily a'r Chwyldro Oren in Faith Videos | View More Free Videos Online at Veoh.com

Wrth dreulio amser gyda Anatoily daeth hi i'r amlwg ei fod yn arweinydd o sylwedd. Oedd mi roedd yn arweinydd Eglwysig pwysig a llwyddiannus yn Kyiv ond daeth i'r amlwg y bod e yn un o arweinwyr pwysig y Chwyldro Oren nol yn 2004. Mae hyn wrth gwrs yn arwyddocaol i mi oherwydd, ar y cyfan, mae pobl o berswâd efengylaidd yng Nghymru a Lloegr yn cadw draw o wleidyddiaeth ac yn sicr yn cadw draw o wleidyddiaeth radical heb sôn am fod yn rhan o arwain chwyldro! Esboniodd Anatoily ei fod yn ymwneud o gwleidyddiaeth ac yn benodol y chwyldro nol yn 2004 oherwydd fod y cyfan yn fwy na gwleidyddiaeth ac mae gwneud safiad moesegol ac nid gwleidyddol oedd ef a'r Eglwysi yn gwneud wrth yrru'r chwyldro yn ei flaen. Roedd hyn yn ddifyr oherwydd dyna oedd cyfiawnhad R. Tudur Jones pan fyddai pobl yn amau priodoldeb ei rôl ef fel arweinydd Cristnogol ar un llaw ac arweinydd ym Mhlaid Cymru ar y naill. I Dr. Tudur cwestiwn moesegol oedd parhad a thegwch i Gymru yn yr un ffordd a mae cwestiwn moesegol oedd hi i Anatoily wneud yr hyd a medrai i gefnogi ac arwain yn chwyldro yn 2004.

Maen ddifyr ein bod ni yn y Gorllewin heb ddeall y rôl allweddol yr oedd yr Eglwysi yn chwarae yn y chwyldro. Roedd cyfarfod gweddi ar y sgwâr rhwng 9 a 10 bob bore gyda degau o filoedd yn cymryd rhan ac wedi hynny mi fyddai arweinwyr yr Eglwysi gan gynnwys Anatoily yn rhannu'r newyddion da am Iesu cyn agor y llwyfan yn hwyrach yn y dydd i'r areithiau gwleidyddol. Nid oedd y wedd yma o'r chwyldro yn cael ei bortreadu gan gyfryngau'r gorllewin o gwbl ac roedd Anatoily o'r farn mae penderfyniad golygyddol o ran CNN a'r BBC oedd peidio dangos blas grefyddol y chwyldro oherwydd cyswllt negyddol crefydd a gwleidyddiaeth yn y gorllewin (Jihad etc..). Edrychwch ar y fideo i glywed Anatoily yn adrodd yr hanes. Roedd yn fraint cyfarfod y gŵr hwn.

Oddi ar: Blog Rhys Llwyd