13.1.09

Neilltuo Dafydd Tudur yn Llwyncelyn

Ar brynhawn dydd Sul, 11 Ionawr, cynhaliwyd gwasanaeth yng Nghapel Llwyncelyn, Ceredigion, i neilltuo Dafydd Tudur fel arweinydd ar yr eglwys sy'n cyfarfod yno.

Mae'r datblygiad hwn yn rhan o strategaeth genhadol newydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, strategaeth sydd i’w chyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf fel Rhaglen Datblygu Annibynwyr Cymru.

Yn wyneb y prinder gweinidogion sydd i’w weld ar hyd a lled y wlad, nod y rhan yma o’r Rhaglen yw annog eglwysi i neilltuo rhai o’i plith ein hunain i fod yn arweinwyr, ac eglwys Llwyncelyn yw y cyntaf i wneud hyn.

Bydd Dafydd yn cynorthwyo gydag addoliad yn yr eglwys ac yn ceisio datblygu tystiolaeth a gwaith yr eglwys yn y gymuned. Yn bwrw golwg dros y gwaith, bydd y Parchg Andrew Lenny, Eglwys Seion, Aberystwyth, a bydd Cyfundeb Ceredigion ac Undeb yr Annibynwyr hwythau wrth law i gynghori a chefnogi yn ôl yr angen.

Yr oedd y gynulleidfa o tua 100 o bobl a ddaeth ynghyd ar gyfer y gwasanarth yn arwydd o'r diddordeb y mae'r cynllun wedi ei greu yn yr ardal.

Bydd Dafydd yn arwain ei oedfa gyntaf fel arweinydd ar ddydd Sul, 25 Ionawr. Croeso i bawb!