9.1.09

Aduniad Souled Out 2009


Pa ffordd gwell sydd yna o ddechrau’r flwyddyn newydd na dod ynghyd â 50 o ieuenctid, myfyrwyr ac oedolion ifanc brwdfrydig am benwythnos? Wel, dyna yn union ddigwyddodd yng Ngholeg y Bala o’r 2il hyd at y 4ydd o Ionawr 2009 gyda phobl o bob cwr o Gymru yn dewis cychwyn eu blwyddyn gyda’r cyfle i adlewyrchu ar eu perthynas gyda Duw.
Thema’r penwythnos oedd ‘Trawsffurfio’ gyda’r pwyslais ar y ffordd mae Duw yn trawsffurfio ein bywydau ni gan ddefnyddio pob rhan o’n hanes ni i wneud ni yr hyn ydym ni heddiw. Cafodd pawb ei atgoffa o farwedd Duw ar hyn mae o wedi dewis ei wneud tros pob un ohonom ni. Cawsom ein herio ar sut i fyw dros Grist yn ein hysgolion, prifysgolion, gweithle ac yn y gymuned yn ddyddiol, gan adlewyrchu cymeriad Crist drwy ein gweithredoedd ni.
Braf oedd cael croesawu Arfon Jones, prif gyfieithydd Beibl.net fel ein gŵr gwadd ar y dydd Sadwrn. Roedd yn wefr i ni gyd i gael anogaeth gan ŵr adnabyddus sydd wirioneddol ar dân dros yr hyn mae’n ei wneud dros Dduw yma yng Nghymru, a cafodd pawb eu sbarduno gan ei frwdfrydedd yn rhannu gair Duw.
Roedd yr awyrgylch o fod yng nghanol gymaint o Gristnogion ifanc yn wefreiddiol a phawb yn amlwg yn mwynhau’r amser i gymdeithasu gyda’n gilydd wrth fynd i lawr i’r ganolfan hamdden am brynhawn o chwaraeon, mwynhau paned mewn caffi yn y dref, gwylio film, a sgwrsio tan oriau mân y bore.

Grŵpiau Rhanbarthol.
Bydd grŵpiau Souled Out yn parhau i gyfarfod yn ystod y flywddyn ymohb cwr o Gymru i roi cyfle i ni ddysgu, cefnogi ac annog ein gilydd. Ewch i’r wefan www.souledoutcymru.net i ddarganfod mwy am sut y gallwch chi ymuno yn yr hwyl!

Haf 09
Dyddiad i’ch dyddiadur!
Bydd cwrs Haf 2009 yn cael ei gynnal 14-21 Awst 2009 yng Ngholeg y Bala.
Am fwy o wybodaeth am Souled Out gallwch ymweld â’r wefan ar www.souledoutcymru.net neu ebostio gwybodaeth@souledoutcymru.net Hefyd, cofiwch ymuno â grŵp Souled Out ar Facebook!