18.1.09

Cyfweliad gyda Aron Treharne

Yn ddiweddar bues i'n cyfweld ag Aron Treharne sy'n wreiddiol o Benygroes ond bellach yn byw yn Llansannan ar ran Cristion. Dyma'r cyfweliad cyntaf mewn cyfres newydd lle bydd Cristion yn cyfweld Cristnogion ifanc neu ifanc eu hysbryd ar draws Cymru a thu hwnt.

Sonia ychydig bach am dy hun a dy gefndir i ddechrau?

Wel, Aron ydw i, a dwi'n bedair ar bymtheg, ac yn byw yn Llansannan ar hyn o bryd. Dwi'n dod o Benygroes, Caernarfon yn wreiddiol, ac fe fues i'n byw yno am ddeunaw o flynyddoedd tan i mi symud i'r Bala am flwyddyn, a rŵan dwi di cyrraedd Llansannan. Dwi'n un o bedwar o blant, mae gen i frawd a dwy chwaer, heb anghofio am y ci wrth gwrs! Mae fy Nhad yn Weinidog gyda'r Bedyddwyr, a Mam yn dysgu Cymraeg i oedolion. Cefais y fraint o gael fy magu mewn teulu cynnes a Christnogol lle roedd y Gair yn cael ei rannu yn aml. Ro' ni'n mynd i'r Capel a chyfarfodydd eraill yn rheolaidd ac wrth i mi edrych yn ôl mae hynny'n amlwg wedi creu argraff sylweddol ar fy mywyd.

Aron Treharne

Felly, rwyt ti'n fab i Weinidog? Druan a ti! Ges di unrhyw dynnu coes am hynny tra yn yr ysgol? Sut brofiad oedd hi i gael dy fagu yn y Mans?

Wel, do! Mi ges i ddigon o stick am y peth, un peth dwi'n ei gofio ydi rhywun yn canu'r gan "Son of a Preacher Man", wyddech chi'r gân gan Aretha Franklin, er mwyn fy ngwylltio mwy na thebyg. Ar y pryd dwi'n siŵr nad oedd o'n ddoniol, ond dwi'n gallu edrych yn ôl a gweld sut y gwnaeth o fy nghryfhau fel Cristion; mae hynny yn gwneud i mi deimlo yn llawen a bodlon am y peth. Roedd y breintiau o gael byw yn y Mans yn werth chweil, yn enwedig oherwydd fod fy nhwf fel Cristion yn cael gofal arbennig, doedd dim modd osgoi'r Bugail! Mae hynny'n bwysig dwi'n meddwl. Ond mi roedd na adegau ble roedd lot o bwysau arnaf i fod yn fachgen "perffaith", fel petai rhyw ddisgwyliad i fab y Gweinidog beidio a gwneud unrhyw beth yn anghywir; ond dysgodd pawb yn ddigon buan nad oeddwn i'n wahanol i unrhyw hogyn arall yn ei arddegau!

Oedd gen ti unrhyw ddiddordebau arbennig tra oeddet ti'n tyfu fynnu? Mae Cristion yn deall dy fod ti'n un i botsian efo ceir?

Haha, wel ie wir! Ceir a chwaraeon, cyfrifiaduron a cherddoriaeth oedd fy niddordebau mwyaf . Dwi wrth fy modd yn potsian efo ceir, newid wing y car oedd y prosiect mwyaf diweddar. Dwi wrth fy modd yn chwarae rygbi, pêl droed, neu unrhyw fath o chwaraeon i fod yn onest. Dwi wrth fy modd yn chwarae o gwmpas efo cyfrifiaduron, yn darganfod pethau newydd, a rhaglenni newydd ayyb..., a dwi'n treulio lot o fy amser yn chwarae'r gitâr, canu, a chwarae'r drymiau. Jyst y pethau mae pawb yn licio eu gwneud mae'n siŵr.

Roeddet ti'n sôn yn gynt nad oedd dy fagwraeth di fel mab y Mans o'r rheidrwydd yn dy wneud di mor wahanol a hynny i bawb arall. Felly pryd a sut wnes ti sylweddoli fod magwraeth ar aelwyd Gristnogol ddim o'r rheidrwydd yn dy wneud di'n Gristion?

Wel, pan ro' ni'n ddeg oed fe es i weld y ffilm "Iesu", a dwi'n cofio'r olygfa lle roedd Iesu'n cael ei groeshoelio ar y groes, a meddwl ei fod o wedi gwneud hynny drosta i. Roeddwn ni'n gwybod fod na rhywbeth ar goll, ac mai nid hynny oedd diwedd y mater. Felly mi es i siarad a chenhadwr o America o'r enw Joe Wheeler, mi esboniodd e fod angen i mi sylweddoli mod i'n bechadur, deud sori am yr holl bethau oeddwn ni wedi neud, yna gofyn i Iesu ddod i mewn i nghalon i a'i adael i fod yn Arglwydd ar fy mywyd i gyd. Dod mewn i berthynas ag Ef, Iesu, oedd yr unig ffordd i ddod yn Gristion; ers hynny dwi'n ceisio, yn nerth yr Ysbryd, i ddyfnhau fy mherthynas a Iesu bob dydd.

Maen siŵr fod y rhan fwyaf o dy ffrindiau ysgol wedi mynd ffwrdd i'r Brifysgol ond fe ddewises di fynd i Goleg y Bala am flwyddyn 'gap'. Beth wnaeth dy gymell di i fynd i Goleg y Bala a beth wyt ti'n meddwl wnes ti ddysgu yna?

Wel, Dad wnaeth ddeud wrtha i fynd. Haha, na ddim o ddifri! Yn syml iawn, roeddwn i'n gwybod mai nid y Brifysgol oedd y lle i mi. Felly, ar ôl gweddïo a gofyn i Dduw ddweud wrtha i ble i fynd, ac ar ôl i mi feddwl am bosibiliadau, fe es i gyfweliad am y rhaglen blwyddyn 'gap' yng Ngholeg y Bala. Yn syth bin fe deimlais rhyw dangnefedd ynglŷn a'r lle, ac o hynny mlaen ro' ni'n gwybod mai fanna oedd Duw eisiau i mi fod. Fe ddysgais lot fawr, gormod i'w nodi, ond y peth mwyaf i mi oedd fod Duw wedi fy ngalw i'r Weinidogaeth llawn amser. Dwi'n cofio'r teimlad anhygoel pan ges i'r sylweddoliad yna fod Duw eisiau i mi fod yn rhan o'i waith Ef! Mae o'n fraint rhyfeddol.

Roeddet ti, wrth gwrs, yn gweithio yng Ngholeg y Bala pan wnaethom ni gyd golli ffrind annwyl iawn, Sion Ifan. Sut wyt ti'n meddwl wnes di a gweddill tîm y Coleg ddygymod a hyn a beth wyt ti'n meddwl wnaeth eich cymell chi i daro mlaen gyda'r gwaith wedyn?

I fod yn onest, dwi'n dal i stryglo lot fawr efo'r peth. Dwi'n ei gweld hi'n anodd i fynd i rai darnau o'r adeilad oherwydd y peth, ond be dwi'n trio cofio ydi'r ffaith fod Sion wedi rhoi esiampl i ni gyd. Dwi'n gwybod y byddai ef eisiau i ni barhau a'r gwaith, a defnyddio bob peth sydd wedi digwydd er clod i Dduw. Pan fydda i'n stryglo maen rhaid i mi atgoffa fy hun bod Sion yn mwynhau ei hun yn y Nefoedd gyda'r Arglwydd Iesu; dwi'n meddwl am beth ddywedodd Paul: 'I mi, Crist yw byw, a marw sydd elw.' Wel mae Sion wedi elwa lot o gael mynd i'r Nefoedd a cael cyfarfod a'n Harglwydd, wyneb yn wyneb.

Ar ôl blwyddyn 'gap' mae'r rhan fwyaf o bobl wedyn yn mynd ymlaen i'r Brifysgol flwyddyn ar ôl pawb arall; ond rwyt ti wedi penderfynu parhau i hyfforddi a gweithio i'r Eglwysi. Beth wyt ti'n gwneud nawr felly?

Wel, dwi'n gwneud cwrs DAWN, sydd yn golygu 'Datblygu Arweinwyr i Weinidogaethau Newydd' ac yn syml iawn, dwi'n cael fy natblygu i fod mewn gweinidogaeth llawn amser. Dwi'n teimlo fod Duw yn fy ngalw i fod yn Weinidog, a mae Ef wedi fy rhoi ar gwrs DAWN er mwyn i mi gael hyfforddiant a gweithio gyda Eglwysi ar yr un pryd. Mae o'n grêt i gael darlith Groeg un diwrnod, arwain grŵp ieuenctid un diwrnod ac yna'n pregethu ar ddiwrnod arall! Dwi'n licio bod yn fwy ymarferol, a mae DAWN yn bendant yn ateb fy anghenion ym mhob ffordd.

A fydde ti felly yn dweud fod yr hyfforddiant hands-on wyt ti'n ei gael yn fwy perthnasol i Weinidogaeth heddiw na'r hen hyfforddiant draddodiadol, colegau diwinyddol, ysgol baratoawl ayyb...?

Dwi'n meddwl fod rhaid i ni fod yn ddiolchgar i Dduw am yr holl draddodiad o ddysgu a hyfforddi cenedlaethau o bobl ifanc i weithio ac i arwain yr eglwysi dros y blynyddoedd. Ond rŵan mae'r hen ffyrdd oedd arfer denu pobl i'r Weinidogaeth yn dod neu wedi dod i ben; yn bennaf oherwydd fod natur y maes cenhadol wedi newid. Ma' rhaid darganfod ffyrdd newydd dwi'n meddwl. Mae DAWN yn hyfforddiant sy'n debyg i brentisiaeth; dy' ni yn cael darlithoedd diwinyddol mwy traddodiadol ond 'dy ni'n cael ein dysgu o fewn cyd-destun lle mae profiadau o arwain mewn sefyllfaoedd real yn chwarae rhan ganolog hefyd. Dwi'n cael fy hyfforddiant yn yr Eglwys yn hytrach na chael fy hyfforddi mewn Coleg sydd wedi dorri ffwrdd o waith yr Eglwys dydd i ddydd.

Lle wyt ti'n meddwl y bydd Duw yn dy arwain ar ôl dy gyfnod gyda DAWN yn Llansannan?

Dwi'n eithaf sicr fod Duw eisiau i mi fod yn Weinidog, ond dwi ddim yn siŵr ble! Dwi'n sicr y byddaf yn aros yng Nghymru beth bynnag. Dwi wedi bod yn meddwl a gweddïo am rhai ardaloedd, ond dwi ddim am ddweud wrthych chi eto! Fe gawn weld yn y dyfodol pan fydd Duw yn dangos y ffordd i mi. Baswn ni'n gwerthfawrogi os byddai eich darllenwyr yn gweddïo drosta i wrth i mi wneud penderfyniadau am fy nyfodol.

Ac yn olaf, wyt ti'n gweld dyfodol i'r dystiolaeth Gymraeg yng Nghymru heddiw? Beth wyt ti'n meddwl yw'r allwedd ar gyfer adfywiad ymysg yr eglwysi Cymraeg?

Yn sicr, mae gan Gymru ddyfodol, a dim ond yr efengyl sydd am ddod a adfywiad i'r Eglwysi. Efallai fod angen edrych ar ddulliau gwahanol o gyrraedd pobl, ond yn syml iawn dwi'n gobeithio y gall pawb weithio gyda'u gilydd er mwyn cyrraedd allan at y colledig.

Diolch am sgwrsio efo Cristion Aron!

Dolenni defnyddiol:
www.dawncymru.org
www.colegybala.org
Cofiwch ychwanegu Aron fel cyfaill ar Facebook a MySpace!