22.1.09

Cenhadaeth Ddigidol


Fe fuesi mewn cyfarfod yn y Bala heddiw i drafod defnydd yr Eglwysi o gyfryngau newydd. Roedd ein trafodaethau ni gobeithio yn dod allan o'r ddealltwriaeth fod deall y diwylliant cyfoes yr un mor allweddol a deall yr efengyl ei hun. Rhan bwysig o'n diwylliant heddiw, fel y bydd darllenwyr metastwnsh yn gwybod, yw technoleg a chyfryngau newydd. Mae yna symudiad wedi bod yn cerdded trwy'r Eglwysi yn America ac hefyd yn Lloegr ers blynyddoedd bellach sef symudiad yr emerging Church. Ond, fel popeth arall, ddeng mlynedd yn ddiweddarach ma'r sôn am emerging yn cyrraedd yr Eglwysi Cymraeg! Nid mudiad swyddogol nac rhyw fath o enwad newydd yw'r emerging Church ond yn hytrach maen ffordd o feddwl am y ffydd a'r Eglwys.

Mae'r emerging Church yn credu fod yr Eglwys yn bodoli lle bynnag bo Cristnogion yn cyfarfod ym mhresenoldeb Duw, Iesu a'r Ysbryd Glan. Ac i'r emerging Church mae hyn, fel arfer, yn golygu lleoliad newydd radical. Yn y dafarn, mewn caffi, ar y stryd a hyd yn oed, a dyma sy'n bwysig yn y drafodaeth yma, ar wefannau fel Facebook! Egwyddorion craidd llawer o arweinwyr yr emerging Church yw fod neges sylfaenol Cristnogaeth i'w gadw yn gyson ond fod yn rhaid addasu'r cyfrwng bob cenhedlaeth er mwyn cyrraedd un cenhedlaeth ar ôl y llall. A'r gwir plaen amdani yw fod yr eglwysi Cymraeg, ar y cyfan, wedi methu'n drychinebus i wneud hyn. Nid yw'r Eglwysi Cymraeg hyd yn oed yn adlewyrchu diwylliant ein rhieni, ddim hyd yn oed diwylliant ein Teidiau a Neiniau ond yn hytrach eu Teidiau a'i Neiniau hwy yn y Bedwaredd ganrif ar Bymtheg! Does dim sôn am y rhyngrwyd na fideo's digidol yn y Beibl. Ond mae yna ddigon o enghreifftiau o'r apostolion yn defnyddio diwylliant y dydd i gyflwyno efengyl Iesu Grist.

Rhai enghreifftiau:

Fideo Souled Out (Enghraifft o fideo i hyrwyddo digwyddiad Cristnogol)

Fideo Pasg (Enghraifft o fideo i ddefnyddio mewn digwyddiad/gwasanaeth Cristnogol)

Mars Hill (Enghraifft o eglwys sy'n gwneud defnydd gwych o dechnoleg)



Egwyddorion:

Dydy perchnogaeth o'r adnoddau/offer ddim yn golygu eich bod chi wedi cyrraedd yna! Gweledigaeth ac adnoddau rhad/amaturaidd yn well na adnoddau drud/proffesiynol heb y weledigaeth. Os yn gwneud rhywbeth i fideo/y wê rhaid cofio fod rhywbeth byddai'n gweithio wyneb yn wyneb ddim o'r rheidrwydd yn gweithio ar fideo. Er enghraifft, mae pregeth 45 munud gan y Parch. Titw Tomos yr un mor ddiflas ar fideo ag y byddai o'i weld yn y cnawd. Ar y cyfan mae tystiolaeth fyw, cyfoes ac effeithiol ar-lein yn adlewyrchu tystiolaeth fyw, cyfoes ac effeithiol yn y cnawd. Rhaid cofio felly fod gwefan fflashi ddim yn gwneud fyny am elfennau eraill o dystiolaeth yr Eglwys. I ddweud y gwir fe ddaw yn amlwg yn ddigon cyflym os yw gwefan yr eglwys yn angynrychioliadol o'i cyflwr go-iawn hi – mi fydd y wefan yn ddiflas!

Gobeithio fydd y cyfarfod heddiw yn arwain i weld yr Eglwysi yn buddsoddi amser, arian, adnoddau dynol a gweddi i'w defnydd o'r cyfryngau newydd.