9.1.09

Ail sesiwn Alffa yn Llandysul

Cafodd ail sesiwn y Cwrs Alffa ei chynnal yng Nghwesty'r Porth, Llandysul, neithiwr. Roedd wyth ohonom ni yno i drafod y cwestiwn 'Pwy yw Iesu?' -beth oedd Iesu'n ddweud amdano'i hun a beth yw'r dystiolaeth i gefnogi hynny? Unwaith eto, cawsom drafodaeth dda yn dilyn y cyflwyniad, cymaint felly fel bod amser wedi hedfan a'i bod yn 9.30 cyn i ni droi!

Edrychwn ymlaen at y sesiwn nesaf - 'Pam y bu Iesu farw?' - sydd i'w chynnal yng Ngwesty'r Porth am 8 o'r gloch nos Iau nesaf (15 Ionawr).

Mae croeso i unrhyw un ymuno a ni ac os hoffech ragor o wybodaeth gallwch ymweld a gwefan Alffa Cymraeg!