8.1.09

Oedfa Neilltuo yn Llwyncelyn

Am 2 o'r gloch brynhawn dydd Sul, 11 Ionawr, bydd oedfa yn cael ei chynnal yng Nghapel Llwyncelyn yn neilltuo Dafydd Tudur fel arweinydd i'r eglwys sy'n cyfarfod yno.





Mae'r datblygiad diweddaraf hwn yn dod o dan gynllun Datblygu Arweinwyr, sy'n rhan o Raglen Datblygu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Bydd Dafydd yn dechrau trwy ofalu am un oedfa' y mis, ac yn cael ei fentora gan y Parchg Andrew Lenny, Aberystwyth.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y cynllun neu am yr eglwys yn Llwyncelyn, cysylltwch ag Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Cewch eu manylion cyswllt ar y wefan www.annibynwyr