2.12.07

Torri Syched ar fideo!

Nid oedd Tafarn y Cwps ar gael ar gyfer Torri Syched ar nos Sul, 2 Rhagfyr, felly cynhaliwyd yr addoliad yn nhy Dafydd Tudur ar Stryd y Bont, Aberystwyth.

Cawsom gyfarfod da yr wythnos hon gan fod nifer o Goleg y Bala, oedd i lawr yn Aberystwyth ar gyfer yr oedfa yn Eglwys Santes Fair, wedi ymuno a ni. Arweinwyd y cyfarfod gan Arawn Glyn; darllennodd 1 Pedr 5:1-11 a dangos ei berthnasedd i'n sefyllfa yn Aberystwyth. Y tro hwn, mae gennym fideo byr o'r addoli er mwyn ichi gael cip ar yr hyn sy'n digwydd:



Gobeithiwn ddangos mwy o fideos o'n gweithgareddau yn y dyfodol agos.

Rhag ofn mai hwn yw'r tro cyntaf ichi glywed am 'Torri Syched' ... Gan fod nifer o Gristnogion ifanc Aberystwyth yn addoli gyda gwahanol eglwysi ar y Sul, penderfynwyd tua blwyddyn yn ol iddynt ddod ynghyd ar nos Sul am addoliad anffurfiol. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar lawr cyntaf gwesty'r Cambrian, ond yn Nhafarn y Cwps rydym wedi bod yn cyfarfod ers hynny. Er mai myfyrwyr yw'r mwyafrif sy'n dod at ei gilydd i addoli yno, nid yw wedi'i gyfyngu i oedolion ifanc o gwbl! Mae croeso i unrhyw un ymuno a ni!

Os hoffech ragor o wybodaeth am y cyfarfodydd, ysgrifennwch at cristnogblog@hotmail.co.uk