5.12.07

Tystio'n ddigidol

Ar nos Lun, daeth pedwar ohonom ynghyd i ddechrau'r gwaith o dystio'n ddigidol. Gan ddefnyddio camera fideo Hawys, bu pedwar ohonom (Rhods, Owain, Hawys a minnau) yn ceisio esbonio beth oedd hanfod y ffydd Gristnogol gyda'r bwriad o roir fideos byrion ar y We.

Cawsom lot o hwyl yn gwneud y fideos ac mae'r posibiliadau a gyfer datblygu'r syniad yn ddiddiwedd! Dylai'r deunydd cyntaf ymddangos ar sgriniau eich cyfrifiaduron yn y flwyddyn newydd.

Tarddodd y syniad hwn o sylweddoli y gellid cyflwyno ein tystiolaeth yn eang trwy greu fideos byrion a syml a'u rhoi ar wefannau fel Cristnogblog a Youtube. A dweud y gwir, mae'n syndod cyn lleied o ddeunydd Cristnogol Cymraeg sydd i'w gael ar Youtube.

Gyda ffonau symudol yn recordio fideos a chamerau fideo yn gostwng yn eu pris, dylai cynhyrchu fideos o'r fath fod yn rhwydd y dyddiau hyn. Pam na rowch chi gynnig ar recordio eich tystiolaeth chi?

Os ydych chi eisoes yn cynhyrchu'r math yma o beth neu os yw'r syniad yn eich diddori, dewch i gysylltiad gyda'n criw trwy ysgrifennu at cristnogblog@hotmail.co.uk

Mae gan Derek Rees brosiect ('Newydd Sbon') ar y gweill hefyd i greu cyfres o fideos ar gyfer pobl sydd newydd ddod yn Gristnogion. Am ragor o wybodaeth am 'Newydd Sbon', cymrwch olwg ar yr hyn a gyhoeddodd ar Cristnogblog yn gynharach yn y flwyddyn, neu cysylltwch a Derek yn uniongyrchol.