Bu criw o oedolion ifanc sydd wedi bod yn rhan o weithgareddau 'Souled Out' yng Ngholeg y Bala yn arwain oedfa Grym Mawl yn Eglwys Santes Fair, Aberystwyth, ar nos Sul, 2 Rhagfyr.
Daeth rhai ohonynt i lawr o Goleg y Bala tra bod eraill yn byw yn Aberystwyth ei hun. Fel rhan o'r gwasanaeth, cafwyd tystiolaeth gan Hawys Tomos ac Aron Treharne, a phregeth ar 'Gariad' gan Owain Roberts.