16.12.07

Eglwys yn Amsterdam yn chwilio am wirfoddolwyr ifanc


Cyfle gwych i gael profiad o weithio gydag eglwys yn yr Iseldiroedd rhwng 1 Medi 2008 a 30 Mehefin 2009!

Ydych chi rhwng 18 a 25? A fyddech yn hoffi gweithio gyda phobl ifanc eraill fel rhan o gymuned Gristnogol fechan, yn rhoi a rhannu ac yn gwneud gwahaniaeth? A yw’r syniad o fyw a gweithio’n wirfoddol yng nghanol Amsterdam yn apelio atch? Os ydych yn ymateb yn gadarnhaol i’r cwestiynau syml hyn, yna y Tŷ Cenhadol yw’r lle i chi!

Mae’r Tŷ Cenhadol yn gymuned ryngwladol o hyd at 8 o bobl sy’n byw gyda’i gilydd am 10 mis mewn tŷ yn Amsterdam yn yr Iseldiroedd. Mae pob aelod o’r gymuned yn gweithio’n llawn amser fel gwirfoddolwr gydag amrywiol brosiectau y mae Eglwys Brotestannaidd yr Iseldiroedd yn ymwneud â hwy. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau gyda mewnfudwyr, cyn-droseddwyr, ieuenctid, defnyddwyr cyffuriau a phobl di-gartref, ac mae’r gwaith mae’r gwirfoddolwyr yn ei wneud yn cynnwys trefnu gweithgareddau hamdden, cynning cyfeillgarwch a chlust sy’n gwrando, helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau newydd, a chynnig cefnogaeth ymarferol a gofal i bobl fydd ei angen.

Mae ‘Tŷ Cenhadol Amstelrank’ yn brosiect ar y cyd rhwng Eglwys Brotestannaidd Amsterdam, Eglwys Brotestannaidd yr Iseldiroedd a Rhanbarth Ewrop o’r Cyngor dros Genhadaeth Fyd-eang (CWM: Council for World Mission).

Ar hyn o bryd, yr ydym yn chwilio am am wirfoddolwyr ar gyfer tîm 2008-09 yn y Tŷ Cenhadol. Felly, os ydych chi rhwng 18 a 25, yn sengl, mewn iechyd da, y medru gweithio mewn tîm, yn cymryd diddordeb mewn diwylliannau pobl eraill ac yn mynychu un o gapeli’r Annibynwyr neu’r Presbyteriaid yma yng Nghymru neu Loegr, ac os ydych yn fodlon rhoi 10 mis o’ch bywyd i waith gwirfoddol, yna byddem yn falch o glywed gennych.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr yn Nhŷ John Penri (geraint@annibynwyr.org) neu ag Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteriaid Cymru yn y swyddfa yng Nghaerdydd (swyddfa.office@ebcpcw.org.uk). Os am weld ychwaneg am y Tŷ Cenhadol, edrychwch ar http://www.missionhouse.nl/ Cofiwch wneud hynny’n fuan, oherwydd mae unrhyw gais am le i fod i mewn erbyn 29 Chwefror 2009!

Manylion cysylltu llawnach:
(Annibynwyr) Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol, Undeb yr Annibynwyr, Tŷ John Penri, 5 Axis Court, Parc Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe, Abertawe. SA7 0AJ (01792-795888)
(Presbyteriaid) Ifan Roberts, Ysgrifennydd Cyffredinol, Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Capel Tabernacl, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd. CF14 1DD (029-20-627465)