17.12.07

LLUNiaeth - Cystadleuaeth mis Rhagfyr

Mae llai nag wythnos i fynd nes bod cystadleuaeth fisol gyntaf 'LLUNiaeth - Ffotograffiaeth Gristnogol' yn cau. Am 12.00 ar 24 Rhagfyr, bydd y rownd gyntaf hon o luniau/adnodau ar y thema 'Nadolig' yn dod i ben.

Mae aelodau o'r grwp 'LLUNiaeth' ar Flickr eisoes wedi rhoi cynnig arni. Cliciwch ar y dolenni canlynol i weld y cynigion: mae un yn seiliedig ar Eseia 9:6, un ar Mathew 2:10, a'r llall ar Mathew 2:11.

Os oes gennych ffefryn yn barod, gallwch ddatgan hynny trwy ysgrifennu ym mlwch sylwadau'r ffotograff hwnnw ar Flickr. Er mwyn tegwch, dim ond un bleidlais a ganiateir i bob person.

Bydd y ffotograff buddugol yn ymddangos ar Cristnogblog ar ddiwrnod Nadolig a bydd y ffotograffydd yn dewis thema ar gyfer y mis canlynol.

Dim ond tri pherson sydd wedi ymaelodi â'r grŵp LLUNiaeth ar Flickr, a buasai'n braf petai ychwaneg yn ymuno! Dewch yn llu!