14.12.07

Angen syniadau ar gyfer anrhegion Nadolig?

Beth am 'Cit Cristnogblog'!?!
Dyma rai pethau sydd eu hangen ar bob Cristnogblogiwr neu Gristnogblogwraig er mwyn cofnodi gweithgareddau Cristnogol Cymraeg a'u cyhoeddi ar y We!


1. Pensil/beiro a phapur
A yw eich cyfeillion yn cael trafferth cofio pa adnodau gafodd eu darllen, yr emynau a chorysau a ganwyd, neu enwau'r bobl oedd yn cymryd rhan? Beth am brynu offer ysgrifennu sy'n ffitio'n gyfforddus i'w pocedi? Gyda'r offer hyn, cewch weld, bydd eu blogiadau yn llawn manylion di-ddiwedd am digwyddiad!

2. Ffon symudol
Oes gennych chi ffrindiau anghofus? Gall ffon symudol fod yn ddefnyddiol iawn mewn argyfyngau. Y dyddiau hyn, mae nifer o ffonau symudol hyd yn oed yn gwneud recordiadau sain, yn tynnu ffotograffau ac yn gwneud fideos o ansawdd uchel! Be' well ar gyfer cyfrannu at Cristnogblog?

3. Camera digidol
Ydych chi'n erioed wedi anghofio tynnu lluniau o ddigwyddiad arbennig? Mae'n digwydd inni i gyd! Beth am brynu camera digidol i'ch cyfeillion er mwyn iddyn nhw gynnwys lluniau diddorol yn eu cyfraniadau at Cristnogblog?

4. Camera fideo
I'r person arbennig yn eich bywyd, gallech brynu camera fideo! Dyma declyn fydd yn gwneud i bobl eraill deimlo fel petaen nhw wedi bod yn bresennol yn eich gweithgaredd Gristnogol! Bydd mwy a mwy o fideos yn ymddangos ar Cristnogblog yn y dyfodol - peidiwch รข cholli allan ar yr hwyl!

Os hoffech chi gyfrannu at Cristnogblog, anfonwch neges at cristnogblog@hotmail.co.uk