2.12.07

Apel am gyfranwyr i Cristnogblog


Lansiwyd Cristnogblog yn y gobaith y buasai'n troi'n wefan y gallai Cristnogion gyhoeddi digwyddiadau ymlaen llaw ac adroddiadau o'r gweithgareddau Cristnogol Cymraeg sy'n digwydd ar hyd a lled Cymru. Gallai'r wefan hon fod yn gyfle i Gristnogion ddod i wybod am waith ei gilydd, fel y gallent weddio drosto a chefnogi mewn ffyrdd eraill, a gallai hefyd fod yn dystiolaeth o'r pethau sy'n digwydd yn y Gymru Gymraeg er mwyn dyrchafu enw Iesu Grist.
Os oes gennych chi ddigwyddiadau Cristnogol i'w hysbysebu yn eich ardal neu newyddion am weithgareddau Cristnogol i'w rannu gyda gweddill y byd, buasem yn hapus i'ch ychwanegu at restr cyfranwyr Cristnogblog. Anfonwch air at cristnogblog@hotmail.co.uk.