14.12.07

Cynhadledd Yr Eglwys i'r Dyfodol I

Ddoe mi fuesi yn ysgol undydd yn y Coleg Gwyn ym Mangor i drafod 'Yr Eglwys i'r dyfodol' (Emergent Church). Trefn y dydd oedd gair o groeso gan Y Parch. Athro D. Densil Morgan yna'r cyflwyniad i'r maes gan Parch. Ddr. Robert Pope. Toriad am ginio yna astudiaeth Feiblaidd ar y pwnc gan y Parch. Euros Wyn Jones yn cael ei ddilyn gan grwpiau trafod ac yna diweddu'r dydd gydag adrodd yn ôl.

Croeso - Denz

Yn ei air o groeso fe ddyfynnodd Denz (rwy'n bwrpasol o hyn allan yn galw pobl wrth eu henwau cyntaf rhagor na'i teitlau 'Parchedig Athro' etc... er mwyn dal 'naws' yr Emergent Church) rhai o eiriau y diweddar Edwin Pryce Jones pan ddywedodd o gadair Undeb yr Annibynwyr, Y Tymbl 1980 fod 'rhaid diwinydd ymhob cenhedlaeth' ac y bod rhaid ail-ddiffinio yr hen Athrawiaethau o'r newydd ymhob cenhedlaeth. Nid newid eu hystyr oedd neges Edwin Pryce Jones ond yn hytrach gydnabod mae'r un ffydd a roddwyd unwaith i'r saint yw Cristnogaeth ond y bod angen ail-edrych ym mhob cenhedlaeth beth ma hynny yn ei olygu iddyn nhw a sut mae ei weithio allan yng nghymdeithas a diwylliant y dydd. Yn dra eironig yr unig brif athrawiaeth na wnaeth Edwin Pryce Jones ei drafod yn ei araith oedd athrawiaeth yr Eglwys ond dyma oedd testun y gynhadledd ddoe. Rhaid i'n cenhedlaeth ni ddiwinydd o'r newydd ar fater Athrawiaeth yr Eglwys a dyna oedd cri Denz ar ddechrau'r diwrnod.

Cyflwyniad i'r pwnc - Robert

Roedd Robert druan yn llawn annwyd ond chware teg fe gyflwynodd bapur tra diddorol. I ddechrau fe nododd ei fan cychwyn, dywedodd mae Anghydffurfiwr Calfinaidd ydoedd ac mae nid jest fel diwinydd academaidd yr oedd yn edrych ar y pwnc ond roedd hefyd yn edrych ar y pwnc fel gweinidog yr efengyl a hynny fel gweinidog oedd yn gweinidogaethu dros braidd oedd yn dirywio. Ei gonsyrn cyntaf oedd y ffaith fod y Cymry wedi bod yn fud ar fater athrawiaeth yr Eglwys a dirywiad/adfywiad yr Eglwys am rhy hir – ychydig o Gymry sydd wedi cyfrannu i'r ddadl. Dywedodd fod yr Eglwys wedi eu hesgeuluso hyd yn oed gan eu haelodau. Heura fod biwrocratiaeth, ail-strwythuro ayyb... wedi tynnu'r sylw i gyd oddi wrth y pethau pwysig sef lles ysbrydol yr eglwys.

Wedyn fe dynnodd sylw at bedwar peth y mae'r Beibl yn dweud yw'r Eglwys:

1. Halen y ddaear (Mathew 9:13)
2. Priodferch Crist (Effesiaid 5:23-32)
3. Y bobl o eiddo Duw (1 Pedr 2:9)
4. Corff Crist (1 Corinthiaid 12:12)


Ymhellach fe dynnodd sylw at yr hyn y dywed Calfin yw'r Eglwys sef lle mae'r gair yn cael ei bregethu a'i glywed. Wrth gwrs ail rhan y cymal sy'n broblematig i'r Eglwysi yng Nghymru heddiw oherwydd mae'r gair yn parhau i gael ei bregethu mewn sawl tref ond gan fod yr eglwysi yn wag dydy'r gair ddim yn cael ei glywed – ydy hynny yn golygu fod yr Eglwysi yn peidio bod yn eglwysi? Dim ond pryfocio.

Fe aeth Robert ymlaen wedyn i ddangos ystadegau'r eglwys rhwng 1980 a 2005. Roedd 14.1% o Gymry yn mynychu eglwys neu gapel yn 1980 ac erbyn 2005 roedd i ffigwr wedi gostwng i 6.4%. Y pwynt cyntaf i nodi oedd fod y ffigwr yn drychinebus o isel yn 1980 i ddechrau er fod pobl ar y pryd dal i gynnal yr hen gyfundrefnau heb fawr o bryder. Maen debyg fod problem heddiw yn deillio i'r ffaith i genhedlaeth 1980 fethu a gweld ei bod hi'n argyfwng bryd hynny hefyd. Wrth gwrs ar y pryd yn 1980 eciwmeniaeth oedd y bri mawr, sef uno'r eglwysi yn fiwrocrataidd yn hytrach na phoeni am ei lles ysbrydol. Fy marn i yw bod llawer o amser ac egni wedi cael ei wastraffu gan y mudiad eciwmenaidd – diwygio nid ail-strwythuro oedd angen! Cyn symud ymlaen o'r ystadegau y pwynt olaf y gwnaeth Robert oedd fod nifer y 'Cristnogion' yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel iawn, dros 70% yng nghyfrifiad 2001. Mae hyn yn dangos fod yna ysgariad wedi bod rhwng y label 'Cristion' a'r eglwys. Going to Church doesn't make you a Christian more than going to Mcdonad's dosn't make you a hamburger ond mae yn seicosis y mae'n rhaid i'r Eglwys, ein diwnwyr a'n harweinwyr ddelio a hi.

Ymlaen felly at yr ateb! Mewn ymateb i'r argyfwng yma y mae'r Emergent Church wedi codi. Nododd Robert y bod yn rhaid i ni ddeall o'r dechrau bod y term ar hyd o bryd yn anelwig ac yn anodd i'w ddifinio oherwydd nid oed yna enwad 'emerging church' ac nid yw'r emerging church yn weithien o fewn un enwad neu draddodiad unigol chwaith. Dyma ddywed Robert yn ei bamffled Saesneg ar y pwnc:

The name tends to be use to distinguish a Christian community whose praxis is very different from that which is ordinarily associated with the church giving rise to a comparison between that which is emerging and that which is 'institutional,' 'traditional' or 'inherited.' [it is] ... the attempt not only to relocate the church among an estranged people, but to redefine church practice within an estranged culture.


I orffen ei gyflwyniad fe gyflwynodd rhai enghreifftiau. Dyma gyflwyno un sef Solace – the bar church. Mae'n eglwys sy'n cyfarfod ym mariau a chlybiau Caerdydd – wele y lluniau, mae'n nhw'n cyfarfod weithiau yng Nghlwb Ifor Bach. Ar dudalen gyntaf eu gwefan maen nhw'n dyfynnu Lenny Bruce yn dweud 'Every day people are straying away from the church and going back to God.' Difyr yn wir.

Mae'r postiad yma wedi mynd braidd yn hir felly bydd rhaid aros am bostiad arall i gael adroddiad o astudiaeth Euros ac adrodd am y grwpiau trafod...