5.11.07

Taith i Fotswana

Dumela! (Helo mewn Setswana).

Dwi nol o Fotswana ers ychydig ddyddiau bellach, a hoffen i rannu rhywfaint o'r profiad gwych a ges i allan yn Neheudir Affrica. Ar ol hedfan 11 awr o Lundain i Johannesburg, ac yna awr arall o Johannesburg i Gaborone yn Botswana, do'n i ddim yn hollol siwr be i ddisgwyl. Wrth i'r awyren fach lanio, fe weles i lawer o dir sych, brown heb fawr ddim byd yn tyfu, ac roedd camu oddi ar yr awyren fel cerdded i mewn i ffwrn. Roedd hi tua 32 gradd celsius - bach o sioc ar ol dod o dywydd oer a gwlyb Cymru!

Roedd cynrychiolydd o UCCSA (United Congregational Churches of Southern Africa) yn aros amdanai ac fe anghofiais fy mod i'n teimlo'n ofnus. Ces i gyfarfod a nifer o bobl eraill o India, Bangladesh, Jamaica, Zimbabwe, De Affrica, Mozambique a Madagascar.





Yn ogystal a chael clywed pobl yn siarad am yr hyn yr oedd yr eglwys yn ei wneud i helpu yn y gymuned yn Botswana, fe fuon ni yn ymweld a'r prosiectau eu hunain. Mae miloedd o bobl yn dioddef o HIV/Aids yn y wlad, a phlant yn cael eu gadael yn amddifad bob dydd. Roedd hi'n drist iawn i weld eu sefyllfa, ond eto roedden nhw'n ymddangos yn ddigon bodlon eu byd ac yn barod i chwarae ac i siarad gyda ni.




Yn ogystal a chael ymweld a'r prosiectau gwahanol, roedd cael addoli gyda Christnogion eraill o nifer o wledydd gwahanol yn brofiad unigryw, ac er bod na wahaniaethau mewn diwylliant a chefndir roedd gyda ni gymaint yn gyffredin hefyd. Fe wnes i ffrindiau da y byddaf i'n sicr yn cadw mewn cysylltiad a nhw.

Allwn i ddim gadael Botswana heb werthfawrogi rhywfaint o fywyd gwyllt a thirlun y wlad.




Bu yn bythefnos llawn bendith lle y gwnes i weld a dysgu llawer, a fedrwn ni ond gweddio dros yr eglwysi allan ym Motswana a dros y gwaith da y maen nhw yn ei wneud yn eu cymdeithas nhw yno.