12.10.07

Dathlu'r Deugain: Eglwys Efengylaidd Aberystwyth

Penwythnos diwethaf dathlwyd 40 mlynedd ers sefydlu Eglwys Efengylaidd Aberystwyth.
Nôl ym 1967 daeth criw o Gymry at ei gilydd er mwyn sefydlu eglwys. Roedd dod allan o'r enwadau er mwyn ffurfio eglwys a fyddai'n ceisio parchu egwyddorion beiblaidd yn ei bywyd a'i gweinidogaeth yn weithred chwyldroadol yn y cyfnod yna. Cafodd y mater sylw yn Y Cymro, y Western Mail, Y Faner a'r Goleuad, hyd yn oed, gyda nifer yn cyhuddo'r bobl dan sylw o greu enwad newydd.

Roedd penderfyniad Gordon Macdonald(Weslead), Ieuan Jones (Annibynnwr), William Morgan a John Ifor Jones (Methodistiaid) i adael eu henwadau wedi ei wneud yn annibynnol o'i gilydd, ac nid oeddent yn gwybod am fwriadau'r lleill. Ond gyda Gordon Macdonald fel dolen gyswllt rhyngddynt, daethant at ei gilydd, ac wedi trafod a gweddïo, daeth hi'n glir mai'r ffordd ymlaen oedd sefydlu eglwys eu hunain.

Gordon Macdonald oedd y gweinidog cyntaf (1967-1997), yna Ifan Mason Davies (1997-2007), ac yna Derrick Adams, sef y gweinidog presennol.

Cynhaliwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn YWCA, Rhodfa'r Gogledd (North Parade) ar 1 Hydref 1967. Ym 1974, symudodd yr Eglwys i addoli yn hen Aelwyd yr Urdd, Ffordd Llanbadarn, ond rydym bellach yn addoli yng Nghapel Saron, Llanbadarn Fawr.

Ddydd Sadwrn diwethaf cafwyd gwasanaeth yng nghapel Alfred Place, Aberystwyth (roedd Saron yn rhy fach!), gyda phregeth gan Wyn Hughes, gweinidog Eglwys Efengylaidd yr Heath, Caerdydd (roedd yn mynychu Eglwys Efengylaidd Aberystwyth fel myfyriwr). Wedyn cafwyd te a LOT o fwyd yn y festri. Roedd nifer o hen wynebau wedi dod i'r gwasanaeth, ac fe gafwyd llawer o hwyl wrth edrych ar hen luniau o fyfyrwyr oedd yn mynychu'r eglwys dros y blynyddoedd, a lluniau o blant yr eglwys ers 1967!

Rhaid yw diolch i Dduw am bob bendith dros y deugain mlynedd diwethaf, ac am yr arweinad i sefydlu Eglwys Efengylaidd Aberystwyth yn y lle cyntaf. Rydym yn gweddïo am gael profi mwy o fendith yn y dyfodol.