Codi'n gynnar ar fore Sadwrn er mwyn dechrau'r diwrnod gyda chyfarfod gweddi a sesiynau ar yr Ysbryd Glan a'i waith. Cawsom brynhawn hamddenol yn y glaw ym Meddgelert cyn dychwelyd am sesiwn arall ar ffrwyth yr Ysbryd gyda'r nos.
Daeth gweithgareddau'r diwrnod i ben gyda chystadleuaeth 'Mae gan Alffa dalent', gyda'r gwersyllwyr yn rhannu'n barau ac yn paratoi dwy eitem o ddim mwy na 3 munud yr un. Yr enillwyr haeddiannol iawn oedd Rhun Emlyn a Gwenno Teifi.
Cafwyd addoliad ar fore Sul a sesiwn ar sut i wneud y gorau o weddill ein bywydau. Ar ol cinio, aethom am dro at Lyn Dinas cyn hel yn ol am Aberystwyth. Cyrhaeddodd pawb yn ol erbyn oedfa'r hwyr yn Seion, a chafwyd gwledd yn y festri i ddilyn!
Llawer o ddiolch i bawb fu'n rhan o'r penwythnos ac yn arbennig i eglwysi Aberystwyth am eu cefnogaeth a'u caredigrwydd tuag atom.
Cynhelir sesiwn nesaf y cwrs Alffa yn yr Orendy ar nos Fercher, 21 Tachwedd, am 6 o'r gloch. Croeso i bawb!