28.9.07

Noson gymdeithasol a gemau!

Cynhaliwyd noson gymdeithasol i lansio'r Cwrs Alffa nos Fercher diwethaf. Yr oedd hi'n noson lawn hwyl a digonedd o gyfle i gymdeithasu. Buon ni'n chwarae gem 'Articulate' a phawb am y gorau yn ceisio disgrifio pa eiriau oedd ar y cardiau bach. Ond yr uchafbwynt i bawb oedd Dafydd Tudur yn dynwared Anne Robinson mewn gem frawychus o 'The Weakest Link'!

Pwrpas y noson hon oedd i bawb ddod i adnabod ein gilydd ac i gymdeithasu cyn i'r cwrs Alffa gychwyn o ddifri nos Fercher 3 Hydref.
Bydd y cwrs yn rhedeg am 10 wythnos o nos Fercher nesaf ymlaen. Bydd yn cael ei gynnal yn yr Orendy ac yn cychwyn am 6 o'r gloch yr hwyr. Y sgwrs gyntaf fydd 'Cristnogaeth - anwir, aniddorol ac amherthnasol', ac mae croeso i bawb ddod i sgwrsio, i drafod ac i holi cwestiynau.

Edrychwch ar wefan www.alffa.org am fwy o wybodaeth.