25.9.07

Ar ei ffordd i Affrica!

Tybed glywsoch chi fod Hawys Tomos o Aberystwyth yn cychwyn ar daith i Botswana, Affrica, cyn bo hir?

Yng Nhynulliad Oedolion Ifanc yr Annibynwyr ym mis Mehefin y soniodd Hawys gyntaf am ei hawydd i gymryd rhan mewn rhyw fath o weithgarwch tramor, ac wedi i ni fel Undeb gysylltu â swyddfa CWM (y Council for World Mission) yn Llundain, buan y dechreuwyd gwneud trefniadau.

Yn enedigol o Landudoch, Penfro, magwyd Hawys yng Nghapel Degwel lle mae ei thad yn ddiacon. Graddiodd yn y Gymraeg yn Aberystwyth yn 2005 cyn mynd ymlaen i dderbyn gradd MPhil yn gynharach eleni.

Bu am gyfnod byr yn Swyddog Cyfathrebu gyda’r Urdd ond erbyn hyn mae’n gweithio i Culturenet Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n addoli’n gyson yng nghapel Seion, Aberystwyth.

Bydd yn cychwyn ar ei thaith i Botswana ar 16 Hydref ac yn aros yno tan ddechrau mis Tachwedd. Bydd yn cymryd rhan mewn Gweithdy Datblygiad Cymunedol. Ar wahan i staff CWM, hi fydd yr unig gynrychiolydd o Ewrop.

Dymunwn yn dda iddi ar ei thaith ac edrychwn ymlaen at ei gweld yn dod yn ôl er mwyn i ni gael clywed peth o’r hanes a gweld ychydig o’r lluniau!

Pob hwyl i ti ar dy daith, Hawys, a phob bendith!