13.8.07

Y Gorlan 2007

Dwi nôl o'r Eisteddfod, felly dyma adroddiad byr (gobeithio!) ar y Gorlan.

Agorodd y Gorlan am rai oriau nos Sul, yna go iawn fore Llun, yn dilyn oriau o lanhau a phwrcasu oergell a rhewgell newydd!

Dechrau digon araf gathon ni, gan i'r Maes Ieuenctid ddim dechrau llenwi'n iawn tan ganol yr wythnos. Y noson brysur gyntaf oedd nos Fercher, yn dilyn gig Bryn Fôn.

Arbrofodd y Gorlan gyda fformat newydd ar gyfer y prynhawn, sef Limbo. Roedd Limbo'n cynnwys dangos C'Mon Midffîld a Syr Wynff a Plwmsan, a sesiwn Meic Agored bob nos am 7pm. Dyma lun o'r posteri oedd yn hysbysebu digwyddiadau Limbo.

Bu'r sesiynau Meic Agored yn llwyddiant ysgubol! Cafwyd setiau gan artistiaid megis Bobs (yn y llun), Meibion Ffred, Gwibdaith Hen Frân, y boi gwallt golau sydd yn Derwyddon Dr Gonzo, Labyrinth ac Ifan Bifan.
Ond mae'n bosib mai'r grwp mwyaf poblogaidd oedd The Welsh Knots, sef Derek a Steff o staff y Gorlan! Chwaraeodd y grwp newydd yma dair noson yn olynnol, gan ymarfer a chyfansoddi yng nghwpwrdd y Gorlan yn ystod y dydd! Erbyn diwedd yr wythnos roedd gan y grwp repertoir eang, oedd yn cynnwys caneuon megis, Y Gorlan, Yr Wyddgrug, Bryn Fôn, cân Saesneg am yr Eisteddfod, a (ffefryn y dorf) Pot Noodle!

Dyma'r ddau (a'r chwaraewr bongos anrhydeddus) wrth eu gwaith!

O ran anafiadau i wersyllwyr, defnyddiwyd antiseptic wipes ar fraich bachgen o'r enw Carwyn, coes un ferch, pen boi gor-gyfeillgar, ac fe yrrais i ferch i Ysbyty Maelor Wrecsam i gael rhywun i edrych ar ei llygad hi (hyn i gyd nos Iau!).

Roedd y Gorlan yn falch i groesawi criw o Gristnogion o Salem, Masschusetts, i'r tîm eleni. Bu tri ohonynt yn rhan o dîm y Gorlan yn Eisteddfod Eryri ddwy flynedd yn ôl hefyd - dathon nhw nôl am fwy! Nyts!
Ta beth, un peth newydd arall oedd y cwrs Datgelu. Roedd hwn yn gwrs o dair sesiwn ar gyfer pobl oedd yn dangos diddordeb yng Nghristnogaeth. Roedd y cwrs yn rhoi cyfle i bobl glywed mwy na'r hyn y gellir ei ddweud mewn sgwrs fer dros y cownter.
Steffan Jones oedd caplan y tîm eleni, ac fe gafwyd cyfres o astudiaethau byrion bendithiol iawn allan o lyfr Colosiaid, ac isod mae llun o adnod allweddol yr wythnos wedi iddi gael ei ysgrifennu ar wal y gegin:
Bu hi'n wythnos lwyddiannus iawn i ni fel tîm, gyda tua 55 o bobl yn dod i weithio a helpu yn ystod yr wythnos, a dim problemau mawr nad oedd modd eu datrys.

Pwyntiau gweddi o'r wythnos:

Gweddîo am y rheiny ddaeth ar y cwrs Datgelu, neu a gafodd sgyrsiau gyda'r tîm.

Gweddîo am wersyllwyr Maes-B yn gyffredinol.

Gweddîo y bydd y Gorlan yn parhau i gael presenoldeb ar y maes ieuenctid, ac y bydd Duw'n bendithio'r paratoadau ar gyfer Eisteddfod Caerdydd 2008.

Diolch i Dduw am ein cynnal ni, a'n bendithio ni dros wythnos yr Eisteddfod.

Hoffwn i gymryd y cyfle, ar ran pwyllgor trefnu'r Gorlan, i ddiolch i BAWB ddaeth draw i helpu ac i weithio eleni. Ac ry'n ni'n edrych ymlaen i'ch gweld chi eto y flwyddyn nesaf!