23.8.07

Taith Torri'r Carbon - Cymorth Cristnogol

Dyma’r daith brotest hiraf erioed, 1,000 o filltiroedd dros 80 diwrnod, a’r bwriad yw codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl y DG am effeithiau andwyol newid hinsawdd ar filiynau o bobl dlotaf ein byd, Mae yna dim o gerddwyr - 10 ohonynt o’r DG ac 11 o dramor.

Mae’r teithwyr tramor, yn cynrychioli partneriaid Cymorth Cristnogol, ac yn dod o rhai o’r gwledydd tlotaf fel Kenya, El Salvador, Tajikistan, Bangladesh, Mali, gwledydd sydd eisoes yn cael problemau mawr oherwydd y newid yn yr hinsawdd.


Ymhlith y cerddwyr o’r DG y mae John Rowlands, Cymro Cymraeg o Gaerdydd, sy’n gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru. Meddai John: "Rwyf wedi meddwl ers amser nad yw hi'n ddigon jyst i siarad am effeithiau newid hinsawdd. Rwy'n cytuno â Cymorth Cristnogol fod Newid Hinsawdd yn fater o gyfiawnder byd-eang. Y mae ein tystiolaeth a'n consyrn ni dros eraill yn enwedig y tlawd a'r difreintiedig yn gallu gwneud gwahaniaeth a dylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau. “

Y mae John yn ysgrifennu blog ar gyfer gwefan Cymru a’r Byd.

Bydd y daith yn dod trwy ddwyrain Cymru o’r 5ed hyd 12fed o Fedi, gyda digwyddiadau lleol wedi eu trefu yn ardal Y Fenni, Pontypwl, Pontllanffraith, Chepstow, a gwasanaeth ar y bore Sul yn yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig ‘City Church’, Caerdydd.

Yr uchafbwynt yw dydd Sadwrn, Medi’r 8fed yng Nghaerdydd, gyda chefnogwyr yn ymuno a’r cerddwyr ar Llwybr y Taf am 2.30. (ger Blackweir) a cherdded i Rali Fawr Torrwn y Carbon ar Cooper’s Field i ddechrau am 3.30.

Yn cymryd rhan yn y rali fydd yr actores Greta Scacchi, Bethan Elfyn (DJ Radio 1), Maggot (Goldie Looking Chain), Terra Naomi a Gwyneth Glyn.

Byddai’n dda gweld tyrfa fawr yn dod ynghyd i Cooper’s Field ar yr 8fed i gefnogi’r teithwyr a’r ymgyrch.

Os am fwy o fanylion am John, y teithwyr eraill neu ymgyrch Torri’r Carbon Cymorth Cristnogol cysylltwch â Robin Samuel (RSamuel@christian-aid.org).