17.7.07

Be ar y ddaear ydi Souled Out?




Gan fod y cwestiwn yma wedi codi mwy nag unwaith mewn sgyrsiau dwi di eu cael yn ddiweddar, roeddwn i’n meddwl y byddai rhyw gyflwyniad bach cryno ar Cristnogblog yn syniad da!

Cynhaliwyd y ‘Souled Out’ cyntaf yng Ngholeg y Bala ym mis Awst 2000. Cwrs haf (pythefnos o hyd!) a oedd a’r enw Cymraeg (Cwrs Hyfforddi Ieuenctid neu CHI - allwch chi ddeall rŵan pan na fu i’r enw Cymraeg gael defnydd eang! Allwch chi ddychmygu gofyn i rywun “Wyt ti’n dod i CHI leni?!” Da ni’n dal i dderbyn cynigion am enw Cymraeg teilwng i ‘Souled Out’ - teipiwch eich cynigion yn y blwch sylwadau isod!!)

Beth bynnag yn ôl at y stori. Gweledigaeth staff y Coleg oedd cynnal cwrs a fyddai’n anelu i hyfforddi cenhedlaeth newydd o arweinwyr. Cafwyd cefnogaeth ariannol gan yr Eglwys Bresbyteraidd i dalu i ieuenctid fynychu’r cwrs. Bu i Dduw fendithio cyrsiau yma a daeth nifer i ffydd o ganlyniad.

Yn dilyn cwrs 2004 roedd y teimlad ein bod am i Souled Out fod yn fwy na dim ond cwrs yn yr haf ac Aduniad ym mis Ionawr. Penderfynwyd y bydden ni’n sefydlu grwpiau rhanbarthol a fyddai’n cyfarfod yn rheolaidd gyda’r bwriad o gefnogi’n gilydd fel rhwydwaith o Gristnogion sydd wedi ein gwasgaru ar draws Cymru. Aethpwyd ati i wneud hyn trwy fwyta take aways, addoli, dysgu a gweddïo gyda’n gilydd. Yn bersonol, dwi wedi cael bendith fawr o fod yn rhan ohono ac mae hi wedi bod yn gyffrous bod yn rhan o’r gymdeithas a gweld unigolion yn dod i gredu a thyfu yn y ffydd.

Bydd Souled Out yn rhedeg eto eleni yng Ngholeg y Bala rhwng yr 17-24 Awst 2007. Mae manylion cysylltu’r Coleg ar y wefan - http://www.colegybala.org/. Cofiwch hefyd am grwp 'Souled Out' ar Facebook!