28.6.07

Sesiwn Syniadau

Nos Fawrth mewn fflat anhysbys yn Aberystwyth(!) cafwyd sesiwn o drafod syniadau ar gyfer flier y Gorlan ar gyfer eleni. Nod y tractiau yw rhoi rhywbeth i bobl feddwl amdano fe, a chynnig ffordd o ddechrau sgwrs gyda'r gwersyllwyr am Iesu Grist, a Christnogaeth yn gyffredinol.

Ar ôl mwynhau sawl paned (a dau becyn o fisgedi siocled) cytunwyd ar syniad am flier syml ond clir i gydfynd gyda thema'r Gorlan ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug 2007. Gyda nifer ohonom ni'n cyfaddef nad ydym ni'n bobl greadigol iawn, dwi'n teimlo i ni gael bendith i feddwl am y cynnwys a'r geiriad.

Os y'ch chi am weld canlyniad y cyfarfod, neu wybod beth yw thema'r Gorlan, yna dewch draw i'r Maes Ieuenctid rhwng 4ydd-12fed Awst!