
Mae ‘Priodas, Rhyw a Byw yn Ddoeth’ yn gyflwyniad PowerPoint sydd wedi ei gynhyrchu gan Lovewise, elusen Gristnogol o Newcastle-upon-Tyne.
Mae Lovewise wedi bod yn creu adnoddau ar briodas, rhyw a pherthynas, i ysgolion a grwpiau ieuenctid, ers 2003.
Arfon Jones o elusen gig a beibl.net sydd wedi cyfieithu’r cyflwyniad i’r Gymraeg.
Mae Priodas, Rhyw & Byw yn Ddoeth yn edrych ar y dewision sy’n wynebu pobl ifanc, ar briodas, ar fanteision cadw rhyw at briodas, ac ar weddau ymarferol mynd allan gyda rhywun – a hynny o safbwynt Cristnogol.
Mae’r cyflwyniad wedi ei fwriadu i fod yn rhyngweithiol, ac mae’n cynnwys clip fideo o wasanaeth priodas Cymraeg. Mae’r cyflwyniad PowerPoint yn dod gyda sgript sy’n ganllaw i’r cyflwynydd.
Gellir prynu copi o “Priodas, Rhyw & Byw yn Ddoeth” o swyddfa Lovewise drwy ffonio 0191 281 3636 neu e-bostio info@lovewise.org.uk. Y pris yw £10.
Mae gan Lovewise lawer o adnoddau eraill yn yr iaith Saesneg ar gyfer ysgolion a grwpiau ieuenctid. Mae adnoddau amrywiol ar gael, i’w defnyddio gyda blynyddoedd ysgol 5-11. Yn eu plith mae adnodd rhyngweithiol pedair rhan o’r enw ‘Growing up …growing wise’ i’w ddefnyddio mewn ysgolion cynradd. Mae mwy o wybodaeth am yr adnoddau eraill hyn i’w gweld ar wefan Lovewise – www.lovewise.org.uk.