12.10.09

Penblwydd GiG yn 10 oed!

Mae gig yn 10 oed! Wnewch chi ddathlu gyda ni?

Roedd sefydlu’r elusen ‘Gobaith i Gymru’ yn 1999 yn gam o ffydd, ond i Arfon roedd yn ymateb i alwad. A gallwn dystio fod Duw wedi bod yn ffyddlon! Rydym wedi rhyfeddu’n gyson at ddaioni Duw a haelioni ei bobl.

Mae llawer eisoes wedi ei gyflawni, ond mae gwaith mawr eto o’n blaenau. Prif brosiect gig, wrth gwrs, fu beibl.net. Roedd Arfon wedi dechrau gweithio ar y syniad o gyfieithu’r Testament Newydd i Gymraeg llafar, syml, tua 1995 – bymtheg mlynedd yn ôl! Ond sefydlu gig ddeg mlynedd yn ôl roddodd y cyfle iddo fwrw ati o ddifrif, a sefydlu gwefan beibl.net yn 2002. Mae’r wefan wedi denu cenhedlaeth newydd o bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc, ac yn cael ei defnyddio’n rheolaidd gan athrawon ac ysgolion, eglwysi, unigolion ac ysgolion sul.

Bellach mae Arfon, gyda chymorth Angharad Roberts, a nifer o ddarllenwyr, wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn gweithio ar gyfieithiad llafar o lyfrau’r Hen Destament. A dyma’r newyddion da! – Rydym yn amcangyfrif y gellir cwblhau y cyfieithiad mewn tair blynedd arall!

Rydym yn edrych am 100 o eglwysi fydd yn fodlon sefyll gyda ni, yn bartneriaid, i weld cyfieithiad beibl.net yn cael ei orffen. A fyddai eich eglwys chi yn fodlon cyfrannu’n fisol tuag at y gwaith am y tair blynedd nesaf?

Gallwch wneud hynny trwy lenwi’r ffurflen archeb banc sydd ar gael o www.gobaith.org/cefnogi

Drwy gefnogi beibl.net byddech yn buddsoddi yng ngwaith y Deyrnas, i gyflwyno’r efengyl i’r genhedlaeth sy’n codi. Wrth gwrs, gall unigolion bartneru gyda ni hefyd! A hyd yn oed os nad ydych chi’n gallu cyfrannu’n ariannol, wnewch chi ymrwymo eto i weddïo’n gyson dros brosiect beibl.net am y tair blynedd nesaf? Byddwn yn anfon llythyr gweddi deirgwaith y flwyddyn, i ddweud sut mae’r gwaith yn dod yn ei flaen.

Yn rhwymau’r Efengyl

Owain Roberts
Cadeirydd Gobaith i Gymru


Beth mae pobl yn ei ddweud?

Dwi isio dweud pa mor wych ydy beibl.net! Mae'n ffantastig gallu darllen y gair mewn Cymraeg medra'i ddallt!”

Mari Griffith (Tearfund – Teddington)

“Wedi bod ar beibl.net, ar unig beth dwi'n gallu ddweud ydy WAW!! ffantastic!”

Gwydion Evans

“Mae ein capel ni wedi dechrau gwneud gwaith gyda’r ysgolion lleol yn ddiweddar. Mae beibl.net yn un o’r prif adnoddau y’n ni’n eu defnyddio. Ryn ni’n defnyddio beibl.net am ei fod wedi ei ysgrifennu yn iaith pobl gyffredin ac yn ddigon hawdd i blant 5-11 oed ei ddeall. Mae dros 80% o’r plant ydyn ni’n cysylltu a nhw yn dod o gartrefi Saesneg.”

Ian Hughes

“Er ein bod yn sylweddoli fwyfwy yr angen dybryd am fersiwn o’r Beibl â’i iaith a’i arddull yn nes at yr hyn a arferir ar lafar, ac a fyddai felly’n fwy rhydd a phoblogaidd ei naws ac a fyddai hefyd, o bosibl, yn nes at fod yn aralleiriad nag yn gyfieithiad, nid oedd y Cydbwyllgor na’r panelau yn ystyried mai dyna ein tasg ni.”

Rhagarweiniad Cyffredinol, Beibl Cymraeg Newydd (Argraffiad Diwygiedig)

“Beth yw beibl.net i mi? Ateb i weddi – ‘lifeline’. Ces i fy magu mewn cartre di-gymraeg, ac yn cael yr hen gyfieithaid Cymraeg a’r Beibl Cymraeg Newydd yn anodd i’w deall. Mae beibl.net wedi agor y gair i mi yn yr iaith dw i’n ei charu, ac mewn Cymraeg dw i’n ei ddeall.”

Lewis Roderick

“Credaf bod beibl.net yn adnodd hynod o bwysig i blant a ieuenctid heddiw, ac yn un y mae Cyngor Ysgolion Sul Cymru yn awyddus iawn i'w gefnogi a'i hyrwyddo. Gobeithiwn weld yr adnodd hwn yn cael ei ddatblygu fwyfwy eto, i gynnwys yr Hen Destament a mwy o adnoddau atodol. Cefnogwn unrhyw ddatblygiad o'r adnodd hynod gyffrous hwn.”

Aled Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Ysgolion Sul Cymru