21.7.09

Adnoddau Newydd ar Beibl.net - Cwisiau Rhyngweithiol

Erbyn hyn mae ‘na 50 o gwisiau PowerPoint lliwgar i blant ar wefan beibl.net.

Mae’r cwisiau yn lliwgar a rhyngweithiol – rhai yn haws na’i gilydd. Mae rhai cwestiynau’n hollol syml, ‘Pwy oedd mam Iesu Grist?’ tra bod cwestiynau eraill yn cynnig mwy o her, ‘Beth oedd enw mam Moses ac Aaron?’.

Mae ‘na gwisiau am bobl yn y Testament Newydd a phobl yn yr Hen Destament, yn ogystal â chwisiau am lefydd, mynyddoedd a gwaith yn y Beibl.

Mae’n bosib lawrlwytho’r cwisiau a’u cysylltu â thaflunydd er mwyn chwarae’r gemau gyda criw o blant mewn clwb neu Ysgol Sul. Mae’n bosib hefyd i blentyn eistedd o flaen y cyfrifiadur a phrofi ei hun yn y tŷ!

I weld yr adnoddau newydd ewch i:

www.beibl.net > Adnoddau> Eglwysi> Gemau

un o brosiectau Gobaith i Gymru (GiG)