27.6.09

Derek, Aron a Rhys - Bugeiliaid newydd



Ar fore dydd Llun cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol y Coleg Gwyn, coleg y Bedyddwyr ym Mangor. Y drefn arferol yw sicrhau ryw awr frysiog ynghanol rhaglen lawn yr Undeb ond braf oedd cael cyfle eleni i gynnal cyfarfod mwy hamddenol yn y Coleg ei hun a hynny ymhlith nifer dda o gyn-fyfyrwyr a ffrindiau, yn ogystal â’r staff, rhai o’r myfyrwyr presennol. Cafwyd adroddiadau cadarnhaol am weithgaredd y Coleg yn ystod y flwyddyn gan y Warden, Densil Morgan, a’r Cyfarwyddwr Hyfforddiant, Ieuan Elfryn Jones. Roedd hi'n grêt clywed bod gan y Coleg bellach bedwar ymgeisydd ar gyfer y weinidogaeth, sef Derek Rees, Aron Treharne, Rhys Llwyd (ar yr ochr Gymraeg) a William Powell (ar yr ochr Saesneg). Roedd tri ohonynt yn bresennol yn y cyfarfod a dymunwyd yn dda iddynt yn eu paratoadau!