24.6.09

beibl.net - Adnoddau ABaCh AM DDIM i athrawon!

Mae adnoddau ABaCh yn awr ar gael AM DDIM i athrawon ar wefan beibl.net >> yma

Dyma grynodeb o'r hyn sydd ar gael ar gyfer pynciau gwahanol:

Taflen wybodaeth: Braslun o’r pwnc dan sylw o fewn fframwaith Cristnogol. Nid gwersi yw rhain, ond syniadau a gwybodaeth ar gyfer athrawon. Mae deunydd trafodaeth a chwestiynau i feddwl ymhellach yn eu cylch.

Adnodau: detholiad o adnodau perthnasol, sef yr adnodau y cyfeirir atynt yn y Daflen Wybodaeth. Daw’r adnodau i gyd o gyfieithiad www.beibl.net.

PowerPoint: Un sleid liwgar gydag amrywiol ddarluniau a geiriau, i’w defnyddio mewn sesiwn trafod syniadau. Mae’r lluniau yn ogystal a’r geiriau yn ysgogi trafodaeth. Mae sleid PowerPoint ar fwrdd gwyn yn ffordd gyfleus o rannu dogfen gyda dosbarth cyfan.

Mae’r ddwy ddogfen ganlynol yn ddogfennau pdf – bydd angen Adobe Reader i’w hagor a’u darllen. (Gellir lawr-lwytho Adobe Reader am ddim yma.)

Du a gwyn: Hawdd i’w llungopïo!

Lliw: Defnyddiol ar gyfer creu arddangosfa. Hefyd, os am drafod amrywiol destunau mewn gwahanol grwpiau mae un poster lliw rhwng grŵp yn gallu bod yn llawer mwy effeithiol nag un du a gwyn.

Adnoddau amrywiol: Gyda rhai testunau yn unig. Gwersi, syniadau am drafodaethau ayyb.