3.12.08

Lansiad Power and Poverty gan Dewi Arwel Hughes yn y Bala


Dydd Gwener, Rhagfyr 5ed, bydd y Bala yn croesawu Dewi Arwel Hughes yn ôl i’w ardal enedigol er mwyn dathlu lansio ei gyfrol newydd. Bydd hefyd yn gyfle i ddathlu penblwydd Tearfund yn 40oed ac mae Dewi wedi gweithio i’r asinantaeth ddyngarol a datblygu honno ers 30 mlynedd o’r deugain.

Bydd y lansiad, a gynhelir yng Ngholeg y Bala am 1pm, yn gyfle i glywed am y gyfrol newydd a’i neges amserol wrth arweinwyr y byd i drin bobl a chymdeithas, yn enwedig cymunedau sy’n dioddef o dlodi, yn gyfiawn. Dywedodd Dewi mewn cynhadledd ddiweddar ar newid hinsawdd yng Nghaerdydd:
‘Fe ddyle ni fel Cristnogion fod yn ofalus iawn i edrych ar ôl yr hyn mae Duw wedi ei greu ac i feddwl yn ddwys am y ffordd rydyn yn byw os, fel mae’n ymdddangos yn fwyfwy tebygol, mae ein ffordd o fyw yn mynd i wneud pethau’n llawer gwaeth i filiynau o dlodion ein byd.’

Meddai Hywel Meredydd, Rheolwr Tearfund yng Nghymru:
‘Rydym yn edrych ymlaen i glywed neges heriol Dewi yn y Bala, ac yn ei longyfarch ar ei waith ymroddgar i’r elusen Tearfund. Rhaid i arweinwyr byd a ni yn ein heglwysi lleol yn Nghymru ystyried sut rydym yn defnyddio’r grym mae Duw wedi ei roi i ni. Gweledigaeth Tearfund dros y ddeng mlynedd nesaf yw gweld 50 miliwn o bobl yn cael eu rhyddhau o dlodi drwy rwydwaith o 100,000 o eglwysi lleol. Mae’r gyfrol hon yn ein harfogi i newid ffordd o feddwl ac i baratoi am y dasg hon.’

Dewi Hughes yw Ymgynghorydd Diwinyddol Tearfund, yr asiantaeth dyngarol a datblygu, ac mae’n aelod o The Lausanne Movement's Theology Working Group. Ef yw awdur Has God Many Names? An Introduction to Religious Studies, God of the Poor: A Biblical Vision of God's Present Rule, a Castrating Culture: A Christian Perspective on Ethnic Identity from the Margins. Daw o’r Bala yn wreiddiol ac mae’n byw gyda’i wraig Maggie ym Mhontypridd bellach.

Power and Poverty: Divine and Human Rule in a World of Need

Cred Dewi Hughes fod dioddefaint cymaint o bobl sy’n byw mewn tlodi yn y presennol yn ganlyniad o gamddefnydd grym gan eraill. Prif thema’r astudiaeth heriol hon yw sut mae pobl yn trin a cham-drin pŵer a roddodd Duw i ni pan greodd ni. Mae’r llyfr amserol hwn yn ein tywys yn feistrolgar drwy dri pwnc pwysig. Maen cychwyn drwy drafod gwreiddiau tlodi yn yr Hen Destament ac yn edrych ar Gyfamod Duw i Abraham a Moses mewn perthynas ag anghyfiawnderau'r cyfnod. Cawn ein harwain wedyn at draed Iesu Grist ein Pen-Arglwydd a myfyrio ar ei eiriau a'i ddysgeidiaeth ef ac ystyried rôl arbennig yr Ysbryd Glan yn hyn i gyd. Yn olaf mae Dewi Hughes yn ffocysu ar yr Eglwys Gristnogol, cymuned pobl Dduw sy'n adlewyrchu dysgeidiaeth a gwaith yr Iesu heddiw. Cawn ein hannog i neulltio amser i weddi law yn llaw a siarad yn broffwydol i'n byd ni heddiw.

Meddai Stephen Nantalis Williams o Union Theological College:
'Yn y gyfrol hon, mae Dewi Hughes yn ysgrifennu’n gymhellgar ar fater pwysig dros ben. Rydym yn ddiolchgar iddo; ond rhaid dangos ein diolchgarwch yn ein parodrwydd i ddilyn llwybr fel disgyblion y Gair. Rwy’n falch i argymell y gyfrol hon.’

Dwi'n disgwyl mlaen i fynychu'r lansiad ddydd Gwener; mae croeso cynnes i bawb ymuno. Os na fedrwch ddod ddydd Gwener cofiwch archebu copi o'r llyfr.

Power And Poverty, Dewi Hughes (Amazon: £14.99)