29.8.08

Souled Out Cymru | Adroddiad Haf 08


Cwestiwn: Beth mae bod yn Gristion yn ein cartrefi, ysgolion, prifysgolion a’n gweithleodd yn ei olygu heddiw?

Am wythnos ym mis Awst bob blwyddyn mae criw o ieuenctid, myfyrwyr ac oedolion ifanc yn dod i Goleg y Bala er mwyn darganfod mwy am hyn a chael mwy na ‘chydig o hwyl yn y broses! Eleni daeth dros 70 o bobl (y nifer mwyaf erioed) yn wynebau hen a newydd i gwrs Haf 08.

Y thema oedd ‘Crist yw Byw’ allan o bennod 2 llythyr Paul at y Philipiaid. Cawsom ein herio a’n hannog i feddwl am ein hymateb i’r ffaith ein bod ni’n gallu derbyn cyfoeth Duw AM DDIM oherwydd beth wnaeth Iesu Grist ar y groes. Yn dilyn y cyfarfodd roedd cylfe i drafod a holi cwestiynau mewn grwpiau ynglŷn â cynnwys sgyrsiau’r siaradwyr.

Roedd gweithgareddau eraill yn cynnwys chwarae pel-droed, rownderi, hoci, yfed te, gwylio ffilmiau, mynd am drip i’r traeth, bwyta kebabs, siopa yng Nghaer, disgo 80au gwyllt a siarad tan oriau man y bore! Ym mhopeth roedd presenoldeb Duw i’w deimlo ac roeddem yn gadael wedi ein herio a’n calonogi i fyw bywydau sy’n llawn pwrpas er mwyn Iesu Grist.


GRWPIAU RHANBARTHOL > Bydd grwpiau Souled Out Cymru yn cyfarfod yn ystod y flwyddyn ledled Cymru i roi cyfle i ni ddysgu, cefnogi ac annog ei gilydd. Ewch i’r wefan www.souledoutcymru.net i ddarganfod mwy am sut y gallwch chi ymuno!

ADUNIAD 09 > Bydd digwyddiad cyntaf 2009 Aduniad 09 yn cael ei gynnal 2 - 4 Ionawr 2009 yng Ngholeg y Bala. Mae croeso i bawb wynebau hen a newydd.

HAF 09 > Bydd cwrs Haf 09 yn cael ei gynnal 14 – 21 Awst 2009 yng Ngholeg y Bala.

GWNEWCH YN SIWR FOD Y DYDDIADAU YN EICH DYDDIADURON!
Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o’r gweithgareddau uchod gallwch:

1) Fynd i’r wefan http://www.souledoutcymru.net/
2) E-bostio gwybodaeth@souledoutcymru.net
3) Ymuno â grwp Souled Out ar Wyneblyfr (Facebook)