Wedi defosiwn dan arweiniad Andras Iago a Rhys Llwyd a sesiwn torri'r ia dan arweiniad Hawys Tomos, rhoddodd Dafydd Tudur gyflwyniad ar Cristnogblog a oedd yn edrych yn ôl ar y flwyddyn ddiwethaf a thrafod y dyheadau ar gyfer y dyfodol. Dangosodd fod ymwelwyr wedi dod i'r blog o 1,123 o ymwelwyr wedi dod i'r wefan ers diwedd Tachwedd a bod ymwelwyr newydd yn dod iddi yn ddyddiol. Daeth y gweithgareddau ar nos Wener i ben gyda thorri cacen benblwydd Cristnogblog.
Ar ddydd Sadwrn, cafwyd cyflwyniad gan Arfon Jones ar beibl.net a'i ddatblygiad fel adnodd. Mae beibl.net yn gobeithio cyflogi rhywun i weithio ar y prosiect cyn bo hir, a gofynnodd Arfon inni weddio dros hynny. Mae'r gwaith o baratoi'r Hen Destament ar gyfer y wefan hefyd ar droed, ac mae unrhyw un sydd a diddordeb mewn darllen y proflenni ar ei gyfer i gysylltu ag Arfon trwy'r wefan.
Rhoddodd Rhys Llwyd gyflwyniad ar yr 'Emerging Church' a thystiolaethu'n ddigidol. Gan edrych ar y mudiad newydd hwn, agorodd Rhys drafodaeth ar y berthynas rhwng yr efengyl Gristnogol a'r diwylliant rydym yn byw ynddo. Yn y prynhawn, dangosodd Rhys rai fideos Cristnogol gan wahodd sylwadau ar eu cryfderau a'u gwendidau. Os hoffech ragor o wybodaeth am wneud fideos Cristnogol, bydd Rhys yn falch o glywed gennych.
Yna siaradodd Dafydd Tudur am y gwahanol wefannau sydd ar gael i Gristnogion eu defnyddio'n rhad ac am ddim, gan annog Cristnogion i geisio gweld pa botensial sydd yn y datblygiadau diweddaraf ar y We ar gyfer gwaith Cristnogol.
Gyda'r awyrgylch anffurfiol a'r parodrwydd i drafod yn agored yn ogystal â'r cyfle i dreulio amser yng nghwmni ein gilydd mewn gweddi a defosiwn, bu'r ddigwyddiad yn fendithiol dros ben. Bu son ar ei ddiwedd am y posibilrwydd o gynnal Cynulliad arall ymhen chwe mis. Bydd Cristnogblog yn siwr o gyhoeddi unrhyw newyddion pellach ar hynny!