28.1.08

Alffa Bangor yn ail-ddechrau

Heno ma fe ail-lansiwyd Alffa Bangor yn lled lwyddiannus dwi'n meddwl. Boed o ganlyniad iddo gael sylw yn Y Goleuad, Y Tyst a hyd oed tudalen flaen Seren Cymru wn i ddim!? Fe fynychodd criw da ohonom, rhai yn Gristnogion, rhai ddim yn siwr a rhai yn agored anffyddiol. Roedd y cyfuniad yn un diddorol ond dymunol. Roedd hi'n braf medru trafod y ffydd yn rhydd gyda rhai oedd yn dechrau o safbwynt tra gwahanol. Cododd yr anffyddwyr sawl cwestiwn da a theilwng iawn, llawer na theimlais mod i ag ateb teg, teilwng a da iddynt - felly gobeithio y bydd y drafodaeth a orffenwyd yn dra pen agored heno ma yn parhau yr wythnos nesaf. Croeso i chi ymuno a ni:

Bob Nos Lun (tan Fawrth 10) 6.30yh, Lawr Llawr ym Mwyty Papilion, rhan Isaf Stryd Fawr, Bangor.