10.12.07

O Fotswana i festri Capel Seion, Aberystwyth

Neithiwr bu'r criw o Aberystwyth yn arwain oedfa, y tro hwn yn festri Capel Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth. Canolbwynt y gwasanaeth oedd ymweliad Hawys â Botswana yn mis Hydref a'r prosiectau a welodd yno, ond roedd sawl un o'r oedolion ifanc yn cymryd rhan yn y gwasanaeth.

Agorwyd yr oedfa gyda chyfarchiad a gweddi gan Dafydd Tudur, yna darllennodd Gwenno Teifi un o'r Salmau. Canwyd 'Glan Geriwbiaid a Seraffiaid' (30 yn CFf), gydag Elin Mair Griffiths ar y piano, cyn clywed darlleniad gan Rhodri Glyn (1 Ioan 4:7-21) a chyfnod o weddi dan arweiniad Owain Roberts. Wedi canu'r garol 'Odlau Tyner Engyl' (CFf 462), rhoddodd Hawys ei chyflwyniad ar Botswana. Dilynwyd y cyflwyniad gan yr emyn 'Bywha dy waith o Arglwydd Mawr' (CFf 243), ac yna rhannodd Dafydd Tudur neges yn seiliedig ar y darlleniad a glywyd yn gynharach. Daeth yr oedfa i ben gyda 'O Gariad, O Gariad, Anfeidrol ei Faint' (CFf 523), a'r gweinidog, y Parchg Andrew Lenny, yn traddodi'r fendith.


Os hoffech i'r criw arwain oedfa yn eich capel neu eglwys chi, buasem yn fwy na pharod i geisio gwneud trefniant i ymweld yn y dyfodol agos. I gysylltu â ni, ysgrifenwch at cristnogblog@hotmail.co.uk