12.12.07

Gwaith Tearfund y Nadolig yma

Ar y cyfan mae gan Gristnogion diwygiedig (neu 'efengyls' i chi sy'n hoff o labelu!) y ddelwedd o beidio poeni am y byd yma a chanolbwyntio 100% yn lle ar y byd nefolaidd sydd i ddod. Wrth gwrs gor-gyffredinoli yw'r ffasiwn beth – mi oedd Wilberforce yr arch-ymladdwr cyfiawnder ei hun mor danbaid ei efengyliaeth yn ei ddydd ag y mae efengylwyr yng Nghymru heddiw. Bellach mae yna gonsensws cyffredinol yn y byd diwygiedig mae heresi fawr oedd pietistiaeth ac fod gan rheiny sydd a'i llygaid tu'r nef lawn gymaint os nad mwy o gyfrifoldeb na phawb arall tuag at weithio am gyfiawnder yn y byd hwn hefyd a hynny yn ei enw Ef – Iesu Grist.

Neithiwr cynhaliwyd noson Tearcraft ym Modffordd, Môn. Roedd yn gyfle i drigolion Môn mam Cymru brynu anrhegion Nadolig masnach deg. Mae Tearcraft yn rhan o'r elusen fawr Gristnogol Tearfund. Pwyslais Tearfund yw y bod angen rhyddhau pobl o ddau fath o dlodi, tlodi materol ie ond fod rhaid i hyn ddigwydd law yn llaw a rhyddhad ysbrydol. Pan sefydlwyd Tearfund yn 1960 (bryd hynny yn gronfa o fewn y Gynghrair Efengylaidd) y gred ymysg llawer oedd y bod elusen Gristnogol (gwell peidio ei henwi!!) yn gwneud gwaith da ar yr ochr rhyddhau o dlodi materol ond yn esgeuluso tlodi ysbrydol a bod sawl mudiad cenhadol yn gwneud gwaith da o ran tlodi ysbrydol ond yn esgeuluso tlodi materol. Erbyn diwedd y 60au roedd Tearfund wedi ei sefydlu ac yn codi dros £50,000 y flwyddyn. Erbyn 2005 roedd Tearfund yn codi dros £50 miliwn y flwyddyn.

Ddim mod i am chwarae i lawr elusennau mwy seciwlar ond mae Tearfund yn elusen gyffrous i'r Eglwysi a Christnogion fod yn rhan ohoni am y rheswm syml y bod yr elfen Gristnogol radical yn hollol ganolog i'w cenhadaeth, nid after thought ydyw. Dyma ddyfyniad oddi ar eu gwefan:

We are Christians passionate about the local church bringing justice and transforming lives – overcoming global poverty. So our ten-year vision is to see 50 million people released from material and spiritual poverty through a worldwide network of 100,000 local churches.

The local church is central to who we are and what we do. If you go to church then part of the solution to poverty is you. We’re asking you to be part of this miracle. Imagine:

…you’re a youth group in Exeter,

who washed cars for cash,
and sent money to Tearfund,

who funded a church in Ethiopia,

to bring education and advice to a village,

which enabled a generation of children to be born HIV-free.




We believe that to be a Christian, wherever you are, is to be called to a life-time’s mission of responding to need here and now – pressing need, the social injustices that need to be restored alongside eternal, salvation needs.


O roi y pwyslais ar waith yr Eglwys Leol mae rhin Tearfund yn bottom up rhagor na top down fel y mae llawer o elusennau mawr corfforaethol wedi troi i fod yn anffodus.

Felly dewch yn rhan o'r gweithgarwch y Nadolig yma mewn 5 ffordd:

1. Ewch draw i'r wefan i gyfrannu arian i'w hymgyrchoedd – nid yw £5 y mis yn lawer mewn gwirionedd, dau beint y mis dyna gyd, a fedri di neud gyda cholli y ddau beint yna? Wrth gwrs y gelli di!

2. Beth am brynu nwyddau Tearcraft fel anrhegion Nadolig?

3. Ychwanegwch 'Super Badger' fel app. i'ch cyfri Facebook er mwyn medru ymgyrchu am gyfiawnder

4. Chwaraewch y gemau yma ar wefan Tearfund i dynnu sylw at broblemau'r amgylchedd.

5. Gweddïwch am waith y mudiad.