3.7.07

Digwyddiadau'r Haf yn Aber


Neithwr cyfarfu criw ohonon ni yn nhy Andras a Rhun yn nhref Aberystwyth er mwyn meddwl am syniadau am weithgareddau i'w cynnal dros fisoedd yr haf yn y dref.

Wedi llawer o fwyta pizza, doritos a bisgedi penderfynwyd cynnal digwyddiad yng nghanol y dref er mwyn cael cyfle i siarad gyda phobl am ein ffydd ac i gyflwyno'r efengyl. Er nad oes dyddiad pendant wedi ei drefnu, cytunwyd ar ddydd Sadwrn ddechrau Medi fel posibilrwydd.

Y syniad hyd yn hyn yw cael stondin yng nghanol y dref a chardiau busnes gydag adnod a manylion cyswllt arnyn nhw i'w dosbarthu i bobl sydd eisiau sgwrs. Trafodwyd hefyd roi losin a lolipops i blant (mawr a bach!) Y prif nod, wrth gwrs, yw i fedru siarad yn agored gyda phobl sydd eisiau gwybod mwy am Iesu Grist ac am yr hyn sy'n digwydd yma yn Aberystwyth gan eu cyfeirio at gapeli ac eglwysi gwahanol yn y dref.

Yr ail beth a drafodwyd oedd y cwrs Alffa a fydd yn dechrau yn y dref fis Medi drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cyrsiau Alffa yn Gymraeg wedi cael eu cynnal yn Aberystwyth yn y gorffennol ac maent wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda Duw yn gweithio'n bwerus iawn ac yn bendithio'r cyfarfodydd.

Bydd y cwrs yn dechrau'n syth wedi i'r tymor coleg ail-ddechrau, a bydd y cyfarfod cyntaf i drefnu yn digwydd wythnos nesaf. Gweddiwch y bydd popeth yn mynd yn hwylus gyda'r trefniadau a'r paratoadau dros yr haf. Byddwch yn siwr o glywed llawer mwy am sut y mae popeth yn mynd dros yr wythnosau nesaf!

Os hoffech chi gyfrannu at y digwyddiadau yma neu os oes gennych chi unrhyw syniadau eraill, gadewch i ni wybod!