22.6.07

Cynulliad Oedolion Ifanc, 15-16 Mehefin

Wel fe aeth pethau'n dda yn y Cynulliad Oedolion Ifanc yr Annibynwyr a gafodd ei gynnal yn Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth penwsnos dwytha! Daeth 24 ohonon ni ynghyd am benwythnos o addoli, gweddi, trafodaeth, a chymdeithasu!

Ar ol cyfarfod ar y nos Wener, fe gawson ni ddefosiwn i ddechrau, cyfle i dorri'r garw, a sgwrs ddifyr dros ben gan Hefin Jones dan y teitl 'Y Blaned Las - Byd Gwyrdd Duw' ... o! ac fe gawson ni homar o ffidan ar ddiwedd y noson!

Ar y dydd Sadwrn, fe gawson ni dair sgwrs arall dan y penawdau canlynol:
  • 'Ydi'n ffydd i'n edrych yn fawr yn hwn?' gan Nia Williams
  • 'Cristnogaeth mewn bocs' gan Catrin Pritchard
  • 'Beth am y Beibl?' gan Arfon Jones
Roedd pob un yn ddifyr ac yn unigryw, ac roedd digon o gyfle i drafod a gweddio rhwng y sesiynau. Dwi'n meddwl bod pawb oedd yno wedi cael bendith o'r digwyddiad ac yn edrych mlaen at y nesa!
Be am chydig o sylwadau gan y rhai oedd yno ...