28.2.13

Diwrnod #beiblibawb


 
Mae Dydd Gwener, Mawrth 1af yn ddiwrnod i ddathlu’r Beibl yn Gymraeg!
 
Ymunwch gyda ni!

Mae’n 25 mlynedd union ers cyhoeddi’r Beibl Cymraeg Newydd, ac mae’r Beibl cyfan yn cael ei lansio ar Wefan www.beibl.net am y tro cyntaf.

... Dathlwch! Rhannwch adnod neu wirionedd o’r Beibl sy’n bwysig i chi gyda’ch ffrindiau – defnyddiwch unrhyw gyfrwng:
  • Gweplyfr (Facebook)
  • Trydar (Twitter)/Skype
  • tecstio
  • e-bost
  • blog
  • YouTube
  • neu unrhyw ddull arall...a cofiwch gynnwys yr hashnod (hashtag) #beiblibawb

    Dwedwch wrth bobl am gariad rhyfeddol Duw.
    Fel mae Salm 78 yn ein hannog:

“Dweud fod yr ARGLWYDD yn haeddu ei foli!
Son am ei nerth a'r pethau rhyfeddol a wnaeth.”


ANFONWCH Y NEGES YMA YMLAEN I'CH FFRINDIAU!