7.7.09

Y Gorlan yn Eisteddfod Bala 2009

Pabell fwyd a diod 24 awr yw'r Gorlan wedi ei leoli ar Faes Ieuenctid yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r Gorlan yn cael ei redeg gan Gristnogion sydd yn gwirfoddoli i roi o'i hamser o flwyddyn i flwyddyn. Gwneir pob ymgais i gadw'r prisiau mor rhesymol a phosibl, mae unrhyw elw yn mynd at dalu costau cadw'r Gorlan i fynd. Mae unrhyw arian ychwanegol yn cael ei roi i gefnogi gwaith elusennau megis Tearfund sydd yn gweithio i leihau tlodi yn y trydydd byd. Bwriad y Gorlan yw darparu gwasanaethau ymarferol a chymorth i bawb sydd yn aros neu yn ymweld a Maes Ieuenctid yr Eisteddfod. Yn ogystal a llenwi'r gwagedd neu'r gwacter corfforol, rydym am ddangos bod Cristnogaeth yn berthnasol ac yn fyw yng Nghymru heddiw a bod rhywbeth ar gael i lenwi'r gwacter ysbrydol ym mywydau pobl heddiw hefyd – sef Newyddion Da yr Efengyl!



Mae'r Eisteddfod eleni yn Y Bala yn argoeli i fod yn un arbennig o brysur i'r Gorlan oherwydd fod Eisteddfodau'r gogledd yn tueddu i fod yn brysurach ar y cyfan ac yn y Bala bydd yna brinder llefydd yn gyffredinol i bobl fwyta a chael lloches felly rydym yn rhagweld y bydd gennym ni nifer sylweddol uwch o bobl yn dod atom am wasanaeth.

Dyma air caredig felly i ofyn am ddau beth gan ddarllenwyr cristnogblog. Yn gyntaf gofynnaf i chi weddïo dros y gwaith; diolch i'r Arglwydd yn gyntaf am ei ffyddlondeb yn paratoi a gweld yn dda i gynnal y genhadaeth yma ers ugain mlynedd bellach. Gweddïo yn ogystal dros y trefniadau eleni; ar yr ochr ymarferol gweddïo y bydd pethau megis y dŵr a'r trydan yn gweithio'n hwylus ynghyd a gweddïo dros ddiogelwch ein gweithwyr, llawer ohonynt yn ifanc, yn ystod yr oriau bach lle mae pethau'n tueddu i fynd dros ben llestri ar adegau! Ar yr ochr fwy ysbrydol gweddïwch os gwelwch yn dda y bydd ein gweithwyr yn cael eu paratoi i wasanaethu eu cyd-Gymry yn yr ysbryd cywir – ysbryd cariad aberthol Iesu. Gweddïwch hefyd y bydd tystiolaeth Y Gorlan yn plannu hadau ffydd ym meddyliau a chalonnau'r Cymry yma fydd Y Gorlan yn eu gwasanaethu.

Mi fydd y Gorlan yn gweithredu ar gynllun shifftiau pedair awr: 8am-12pm, 12pm-4pm, 4-pm-8pm, 8pm-12am, 12am-4am, 4am-8am. Y shifft frecwast ynghyd a'r oriau rhwng wyth y nos a phedwar y bore yw'r prysuraf fel arfer. Mi fyddem ni fel tîm yn hynod ddiolchgar petai rhai o ddarllenwyr cristnogblog, does ots beth yw eich oedran, yn ymuno a ni am gyfnod yn ystod yr wythnos. Does dim rhaid gwneud shifft lawn os mae dim ond awr neu ddwy sydd yn rhydd gyda chi – mi fyddwn ni'n falch o unrhyw gymorth gan ein brodyr a'n chwiorydd yng Nghrist.

Gellid gweld fideo o'r Gorlan ar-waith ynghyd a fideo yn adrodd stori Lewis a ddaeth i ffydd drwy dystiolaeth y Gorlan rai blynyddoedd yn ôl ar ein gwefan: www.ygorlan.com. Am wybodaeth bellach e-bostiwch fi ar rhys@ygorlan.com neu rhowch ganiad i mi 07834556202.