28.7.09

Tearfund yn 'Steddfod Bala

Nid oes gan 900 miliwn o bobl ddŵr glân ac nid oes mynediad gan 2.5 miliwn o bobl mynediad at doiled derbyniol.



Dyna pam fod Tearfund Cymru yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala eleni am dynnu sylw at yr anghyfiawnder yma, drwy gystadleuaeth taflu papur ty bach.

Yn Affrica, mae hanner y merched yn peidio mynd i'r ysgol gynradd oherwydd fod angen iddynt gasglu dŵr neu oherwydd nad oes gan eu hysgol doiled digonol.

Os nad oes gan bobl fynediad at toiled, mae peryg iddyn nhw gael eu brathu gan nadroedd yn y gwair, a gall merched gael eu targedu a'u treisio'n rhywiol wrth iddyn nhw fynd allan yn y nos i doilet awyr agored.

Meddai Hywel Meredydd (Cyfarwyddwr Tearfund Cymru):

‘Yn 2000, roedd dros 50 o wledydd wedi cytuno i Dargedau Datblygu y Mileniwm gan y Cenhedloedd Unedig i gyflawni, ymysg pethau eraill, gweithredu ar ddŵr a thoiledau erbyn 2015. Ond mae arweinyddion byd yn gwneud cynydd araf iawn. Mae hyn yn golygu na chaiff miliynau o bobl ddŵr glân tan 2035, neu doiled cyn 22ain ganrif’


Meddai Mari Williams (Ymgynghorydd Polisi Glanweithdra Tearfund):

‘Mae mwy na 5,000 o blant yn marw bob dydd oherwydd dŵr budr a diffyg glendid. Gweledigaeth Tearfund ar gyfer dŵr a glendid erbyn 2015 yw i roi addysg am lendid i 6 miliwn o bobl, mynediad i ddŵr glân a toiled derbyniol i 3 miliwn o bobl a effaith bositif polisiau rhyngwladol gwell i 2.5 biliwn o bobl.

Rydym ni'n galw yn awr ar y Prif Weinidog i weithredu ar ddŵr a glendid, mae'n anheg fod bron i 900 miliwn o bobl heb fynediad i ddŵr glân, tra bod 2.5 biliwn o bobl yn byw heb doiled derbyniol.


Galwch heibio stondin Tearfund ar Faes yr Eisteddfod i glywed mwy am yr ymgyrch bwysig hon.