14.3.09

Adroddiad o Gynhadledd CymruGyfan 2009 (Rhan 2)

...parhad o'r cofnod blaenorol

Yr apostol tu ôl i'r fenter ydy gŵr o'r enw David Ollerton, cyn-weinidog Eglwys Fedyddiedig Rhiwbeina yng Nghaerdydd a bellach mae'n arwain eglwys newydd sbon sydd wedi ei phlannu ym Mhorthcawl. Dyma ŵr y mae Duw wedi ei ddewis a'i ddonio fel apostol cyfoes i ni yng Nghymru. Ers cynhadledd gyntaf a chychwynnol CymruGyfan yn 2005 fe ddioddefodd David Ollerton o Gancr difrifol iawn; dywedodd y doctor wrtho fod ei gyfle i oroesi yn 10% yn unig. Cafodd lwyr iachâd, ac y mae yn awr wedi ail-gydio yn ei rôl apostolaidd, clod i Dduw!

David Ollerton, Cadeirydd Cymru Gyfan

Dau her benodol y gwelais i oedd yn codi yn y gynhadledd i gapelwyr traddodiadol. Yn gyntaf roedd hwn yn ddigwyddiad nad oedd o'r rheidrwydd yn rhyng-enwadol nac yn gyd-enwadol ond yn hytrach roedd yn debycach i ddigwyddiad ôl-enwadol! Ddim fod perthynas na thraddodiad Cristion yn amhwysig ac yn cael ei ddifrïo, ond yn hytrach fod yna barch teg i'r perthyn a'r traddodiadau gwahanol. Roedd hi'n chwa o awyr iach er enghraifft i weld Marc Owen (Ysgrifennydd Bywyd Eglwys, Undeb Bedyddwyr Cymru) yn rhannu llwyfan a gweledigaeth gyda unigolion fel Elfed Godding (Ysgrifennydd Cyffredinol y Gynghrair Efengylaidd) ac hefyd unigolion fel Julian Richards (arweinydd Eglwys Cornerstone, Abertawe). Ni fyddai'r ffasiwn beth wedi digwydd ddeng mlynedd yn ôl ond y mae amgylchiadau a difrifoldeb ein sefyllfa ysbrydol, ynghyd ac arweiniad amlwg yr Ysbryd yn y gwaith, yn golygu y bod uno dan groes Iesu yn digwydd heddiw.

Marc Owen, Undeb Bedyddwyr Cymru

Yr ail her i gapelwyr traddodiadol yw i ni wylio rhag bod yn ddiffoddwyr tân! Rhaid i ni beidio taflu dŵr oer ar unrhyw waith newydd os nad ydyw'n union beth rydym ni wedi arfer ag ef. Mi fydd darllenwyr hanes yn gyfarwydd gyda'r hanesion am agwedd ddirmygus Clerigwyr yr Eglwys Wladol tuag at weinidogaethau a chenadaethau'r ymneilltuwyr a'r Methodistiaid cynnar. Rhaid i ni wylio rhag syrthio i'r un camgymeriad a'r cenedlaethau a fu; rhaid cefnogi, annog a gweddïo dros y gwaith newydd yn hytrach na phwdu mewn ton o eiddigedd.

Rydym ni'n byw mewn cyfnod anodd a llwm ar un llaw ond cyffrous ar y naill a'm cais i fel Cristion ifanc ydy i chi'r genhedlaeth hŷn wneud popeth o fewn eich gallu i hwyluso unrhyw fentrau neu chenadaethau newydd fydd Duw yn defnyddio rhwydwaith CymruGyfan a'i was David Ollerton i'w sefydlu a'u plannu. Maen amser i wneud nid dweud.

Mwy o wybodaeth: www.cymrugyfan.org

Mwy o luniau o'r diwrnod