2.1.08

Aduniad Souled Out Penwythnos nesa'!




Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd! Bydd penwythnos Souled Out yn cael ei gynnal penwythnos nesaf (4-6 Ionawr 2008) yng Ngholeg y Bala. Byddwn ni'n cael cyfle i ddysgu a chyd-addoli mewn awyrgylch gartrefol ac anffurfiol. Y thema fydd 'Pethau Cyntaf Gyntaf'. Cyfle i gael golwg ddyfnach ar sut i fyw gyda'r blaenoriaethau cywir. Jyst y peth ar ddechrau blwyddyn newydd! Bydd digon o amser hefyd i gymdeithasu, i weddio, yn ogystal â phêl-droed, paneidiau te a sgwrsio tan oriau mân y bore! Bydd y penwythnos yn dechrau nos Wener ac yn gorffen amser cinio dydd Sul. Mae'n agored i ieuenctid 15+ ac oedolion ifanc. Does dim rhaid i chi fod wedi bod o'r blaen! Am fwy o fanylion cysylltwch â Meryl Walters ar 01678 520565 neu trwy e-bostio meryl_walters@yahoo.co.uk.