9.12.07

cristnogaeth.com

Bellach mae yna wefan newydd 'cristnogaeth.com' y gobaith yw y bydd yn medru gweithredu fel 'hub' i'r gwahanol dystiolaeth Gristnogol Cymraeg sydd ar y we. Ar hyn o bryd mae'n arwain pobl i:

- Mae capeli ac eglwys yn ddiflas - felly beth am fynychu cwrs allfa? (allfa.org)

- Maen amhosib deall y Beibl - wyt ti wedi clywed am beibl.net? (beibl.net)

- Dydy Duw ddim yn gweithio yng Nghymru bellach - beth wnei di o hanes Lewis? (fideo o dystiolaeth Lewis)

- Fedrai ddim diddoef cymanfa ganu - wyti ti wedi clywed am y gweithgareddau yma? (cristnogblog)

Os carech i mi gynnwys mwy o lincs pan fyddaf yn diweddaru'r wefan nesa gadewch nodyn yn dweud pa rai. Yr unig ganllawiau yw hyn:

1. Rhaid bod yn Gymraeg

2. Nid wyf yn derbyn doleni i eglwysi unigol (rwyf am i'r wefan fod yn 'niwtral' oddi wrth bob eglwys) nac ychwaith doleni i unrhyw enwad am yr un rheswm.