28.7.09

Tearfund yn 'Steddfod Bala

Nid oes gan 900 miliwn o bobl ddŵr glân ac nid oes mynediad gan 2.5 miliwn o bobl mynediad at doiled derbyniol.



Dyna pam fod Tearfund Cymru yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala eleni am dynnu sylw at yr anghyfiawnder yma, drwy gystadleuaeth taflu papur ty bach.

Yn Affrica, mae hanner y merched yn peidio mynd i'r ysgol gynradd oherwydd fod angen iddynt gasglu dŵr neu oherwydd nad oes gan eu hysgol doiled digonol.

Os nad oes gan bobl fynediad at toiled, mae peryg iddyn nhw gael eu brathu gan nadroedd yn y gwair, a gall merched gael eu targedu a'u treisio'n rhywiol wrth iddyn nhw fynd allan yn y nos i doilet awyr agored.

Meddai Hywel Meredydd (Cyfarwyddwr Tearfund Cymru):

‘Yn 2000, roedd dros 50 o wledydd wedi cytuno i Dargedau Datblygu y Mileniwm gan y Cenhedloedd Unedig i gyflawni, ymysg pethau eraill, gweithredu ar ddŵr a thoiledau erbyn 2015. Ond mae arweinyddion byd yn gwneud cynydd araf iawn. Mae hyn yn golygu na chaiff miliynau o bobl ddŵr glân tan 2035, neu doiled cyn 22ain ganrif’


Meddai Mari Williams (Ymgynghorydd Polisi Glanweithdra Tearfund):

‘Mae mwy na 5,000 o blant yn marw bob dydd oherwydd dŵr budr a diffyg glendid. Gweledigaeth Tearfund ar gyfer dŵr a glendid erbyn 2015 yw i roi addysg am lendid i 6 miliwn o bobl, mynediad i ddŵr glân a toiled derbyniol i 3 miliwn o bobl a effaith bositif polisiau rhyngwladol gwell i 2.5 biliwn o bobl.

Rydym ni'n galw yn awr ar y Prif Weinidog i weithredu ar ddŵr a glendid, mae'n anheg fod bron i 900 miliwn o bobl heb fynediad i ddŵr glân, tra bod 2.5 biliwn o bobl yn byw heb doiled derbyniol.


Galwch heibio stondin Tearfund ar Faes yr Eisteddfod i glywed mwy am yr ymgyrch bwysig hon.

27.7.09

14 - 21 Awst 2009 | Haf 09 | Souled Out Cymru

Archebwch eich lle heddiw!

14 - 21 Awst 2009 | Coleg y Bala

Ewch i www.souledoutcymru.net am fwy o fanylion
ac i lawrlwytho ffurflen gofrestru!

21.7.09

Adnoddau Newydd ar Beibl.net - Cwisiau Rhyngweithiol

Erbyn hyn mae ‘na 50 o gwisiau PowerPoint lliwgar i blant ar wefan beibl.net.

Mae’r cwisiau yn lliwgar a rhyngweithiol – rhai yn haws na’i gilydd. Mae rhai cwestiynau’n hollol syml, ‘Pwy oedd mam Iesu Grist?’ tra bod cwestiynau eraill yn cynnig mwy o her, ‘Beth oedd enw mam Moses ac Aaron?’.

Mae ‘na gwisiau am bobl yn y Testament Newydd a phobl yn yr Hen Destament, yn ogystal â chwisiau am lefydd, mynyddoedd a gwaith yn y Beibl.

Mae’n bosib lawrlwytho’r cwisiau a’u cysylltu â thaflunydd er mwyn chwarae’r gemau gyda criw o blant mewn clwb neu Ysgol Sul. Mae’n bosib hefyd i blentyn eistedd o flaen y cyfrifiadur a phrofi ei hun yn y tŷ!

I weld yr adnoddau newydd ewch i:

www.beibl.net > Adnoddau> Eglwysi> Gemau

un o brosiectau Gobaith i Gymru (GiG)

Barbeciw yng Ngholeg y Bala wythnos 'steddfod

BBQ Coleg y Bala

Eisteddfod 2009 yng Ngholeg y Bala

Gwasanaeth i'r Teulu â Barbeciw

Prynhawn Iau, Awst 6ed 5 o’r gloch

Oedolion £5.00 Plentyn £2.00


Llenwch y bonyn a’i ddychwelyd i’r Coleg neu Babell yr Eglwysi ar y Maes neu ffoniwch y Coleg ar 01678 520565 os gwelwch yn dda erbyn dydd Mawrth 4ydd.

Coleg y Bala
Ffordd Ffrydan
5 munud o faes yr Eisteddfod.
Croeso cynnes i bawb!

18.7.09

Gwasanaeth Amgen yn 'steddfod Bala

Cwrdd Amgen Coleg y Bala

Gwasanaeth Amgen

yng ngofal Gwyn Rhydderch a chyfeillion: cyfle i bawb o bob oed i ddod ynghyd i addoli Duw a gwrando ar dystiolaeth thai o bobl ifanc Cymru

Dydd Sul 2 Awst (Sul cyntaf y 'steddfod)
5pm - Coleg y Bala
5 munud o faes yr Eisteddfod


Croeso i Bawb!

7.7.09

Y Gorlan yn Eisteddfod Bala 2009

Pabell fwyd a diod 24 awr yw'r Gorlan wedi ei leoli ar Faes Ieuenctid yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r Gorlan yn cael ei redeg gan Gristnogion sydd yn gwirfoddoli i roi o'i hamser o flwyddyn i flwyddyn. Gwneir pob ymgais i gadw'r prisiau mor rhesymol a phosibl, mae unrhyw elw yn mynd at dalu costau cadw'r Gorlan i fynd. Mae unrhyw arian ychwanegol yn cael ei roi i gefnogi gwaith elusennau megis Tearfund sydd yn gweithio i leihau tlodi yn y trydydd byd. Bwriad y Gorlan yw darparu gwasanaethau ymarferol a chymorth i bawb sydd yn aros neu yn ymweld a Maes Ieuenctid yr Eisteddfod. Yn ogystal a llenwi'r gwagedd neu'r gwacter corfforol, rydym am ddangos bod Cristnogaeth yn berthnasol ac yn fyw yng Nghymru heddiw a bod rhywbeth ar gael i lenwi'r gwacter ysbrydol ym mywydau pobl heddiw hefyd – sef Newyddion Da yr Efengyl!



Mae'r Eisteddfod eleni yn Y Bala yn argoeli i fod yn un arbennig o brysur i'r Gorlan oherwydd fod Eisteddfodau'r gogledd yn tueddu i fod yn brysurach ar y cyfan ac yn y Bala bydd yna brinder llefydd yn gyffredinol i bobl fwyta a chael lloches felly rydym yn rhagweld y bydd gennym ni nifer sylweddol uwch o bobl yn dod atom am wasanaeth.

Dyma air caredig felly i ofyn am ddau beth gan ddarllenwyr cristnogblog. Yn gyntaf gofynnaf i chi weddïo dros y gwaith; diolch i'r Arglwydd yn gyntaf am ei ffyddlondeb yn paratoi a gweld yn dda i gynnal y genhadaeth yma ers ugain mlynedd bellach. Gweddïo yn ogystal dros y trefniadau eleni; ar yr ochr ymarferol gweddïo y bydd pethau megis y dŵr a'r trydan yn gweithio'n hwylus ynghyd a gweddïo dros ddiogelwch ein gweithwyr, llawer ohonynt yn ifanc, yn ystod yr oriau bach lle mae pethau'n tueddu i fynd dros ben llestri ar adegau! Ar yr ochr fwy ysbrydol gweddïwch os gwelwch yn dda y bydd ein gweithwyr yn cael eu paratoi i wasanaethu eu cyd-Gymry yn yr ysbryd cywir – ysbryd cariad aberthol Iesu. Gweddïwch hefyd y bydd tystiolaeth Y Gorlan yn plannu hadau ffydd ym meddyliau a chalonnau'r Cymry yma fydd Y Gorlan yn eu gwasanaethu.

Mi fydd y Gorlan yn gweithredu ar gynllun shifftiau pedair awr: 8am-12pm, 12pm-4pm, 4-pm-8pm, 8pm-12am, 12am-4am, 4am-8am. Y shifft frecwast ynghyd a'r oriau rhwng wyth y nos a phedwar y bore yw'r prysuraf fel arfer. Mi fyddem ni fel tîm yn hynod ddiolchgar petai rhai o ddarllenwyr cristnogblog, does ots beth yw eich oedran, yn ymuno a ni am gyfnod yn ystod yr wythnos. Does dim rhaid gwneud shifft lawn os mae dim ond awr neu ddwy sydd yn rhydd gyda chi – mi fyddwn ni'n falch o unrhyw gymorth gan ein brodyr a'n chwiorydd yng Nghrist.

Gellid gweld fideo o'r Gorlan ar-waith ynghyd a fideo yn adrodd stori Lewis a ddaeth i ffydd drwy dystiolaeth y Gorlan rai blynyddoedd yn ôl ar ein gwefan: www.ygorlan.com. Am wybodaeth bellach e-bostiwch fi ar rhys@ygorlan.com neu rhowch ganiad i mi 07834556202.

6.7.09

Dechrau'r Dyfodol

www.taith09tour.com

4 o gigs o gwmpas Cymru - dewch â'ch clwb plant/ieuenctid, eich ffrindiau, eich rhieni, eich nain, eich ci - PAWB!

25.07.09 Berea Newydd, Bangor
26.07.09 Morlan, Aberystwyth
27.07.09 Milkwood Jam, Abertawe
28.07.09 The Gate, Caerdydd

Gall fod yn Ddechrau'r Dyfodol - peidiwch â cholli'r cyfle!